Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Amdanom Ni

Yr awdurdodau sy'n gyfrifol yw:

HEDDLU GOGLEDD CYMRU
HEDDLU GOGLEDD CYMRU

GWASANAETH TÂN GOGLEDD CYMRU
GWASANAETH TÂN GOGLEDD CYMRU

YNYS MÔN
YNYS MÔN

Gwynedd
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd

CYNGOR SIR CONWY
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CONWY

DENBIGHSHIRE COUNTY COUNCIL
CYNGOR SIR DDINBYCH

FLINTSHIRE COUNTY COUNCIL
CYNGOR SIR Y FFLINT
Y Strategaeth (PDF 254kb)

Wrexham
CYNGOR SIR WRECSAM
Y Strategaeth (PDF 59kb)

WELSH HOUSING FEDERATION

FFEDERASIWN CYMDEITHAS TAI CYMRU

Gwasanaeth Prawf
GWASANAETH PRAWF GOGLEDD CYMRU

North Wales Ynys Mon Gwynedd Conwy Denbighshire Fflintshire Wrexham

Beth yw Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru?

Mae Grŵp Strategaeth Prif Swyddogion Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru yn bartneriaeth strategol amlasiantaethol sydd wedi bod mewn bodolaeth ers Ionawr 1999. Mae’r grŵp wedi datblygu ers hyn, ac wedi newid ei enw ym Mehefin 2005 er mwyn cyrraedd gofynion y strategaeth yn ogystal ag adlewyrchu'r nifer o’r prif swyddogion sydd yn mynychu’r cyfarfodydd. Mae’r grŵp yn gwasanaethu chwech o awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru.

Mae aelodau'r grŵp yn dod o’r lefelau uchaf yn yr asiantaethau sydd yn cyfrannu, boed yn y sector gyhoeddus, breifat neu wirfoddol. Mae’r strwythur rhanbarthol yma yn darparu fframwaith eang i hwyluso ag i godi gwerth y gwaith ym mhob awdurdod Partneriaeth Diogelwch Cymunedol lleol, er mwyn taclo blaenoriaethau trosedd ag anrhefn.

Drwy symud ymlaen gydag amser a newidiadau mae rhannu ymarferion da, dysgu trwy ein gilydd a chadw mewn cysylltiad cyson gyda fforwm megis Grŵp Ymarferwyr Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru wedi cael ei adnabod fel llwyddiant mawr ar hyd Gogledd Cymru gan Fforwm y Prif Swyddogion. Mae strategaeth 'cyd-gyfathrebu' hefyd mewn datblygiad, drwy ddatganiaethu i’r wasg am ymyriadau a phrojectau megis Cyfnewid Nodwyddau, Goruchwyliwr Drysau yn ogystal â Strategaeth Troseddwyr ‘Prolific’ a Rhaglenni Ymyriadau Cyffuriau.

Dyma amrywiaeth o’r materion a gymrir i ystyriaeth:-

Mae'r chwe Partneriaeth Diogelwch cymunedol yng Ngogledd Cymru wedi paratoi strategaeth tair blynedd i daclo trosedd ag anrhefn yn eu hardal. Mae’r planiau yma yn cael eu hadolygu yn gyson, maent hefyd yn cymryd i ystyriaeth y problemau trosedd ag anrhefn presennol yn eu hardal.

Mae’n rhaid pwysleisio fod troseddau ag anrhefn yng Ngogledd Cymru wedi lleihau yn sylweddol yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ag yn dangos lleihad eto yn y flwyddyn hon. Ar y llaw arall mae ymchwil yn dangos fod pobl yn fwy ofnus o droseddau yn eu hardal ac nid oes esboniad rhesymegol am hyn. Fe hoffem gymryd y cyfle yma i sicrhau'r cyhoedd fod Gogledd Cymru yn ardal saff iawn i fyw a gweithio ynddo.

Y Strwythur
 
strwythur

 


 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru