![]() |
|---|
Beth yw Ymddygiad Gwrthgymdeithasol? |
|---|
Diffiniad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o dan Act Trosedd ag Anrhefn 1998 yw ymddygiad sydd yn debygol o godi cynnwrf, aflonyddwch neu gyfyngder gan aelod o’r cyhoedd sydd ddim yn yr un adeilad ar cyflawnwr. Mae ymddygiad gwrth gymdeithasol yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobol - cymdogion swnllyd sydd yn difetha bywyd arferol i bobl o’u hamgylch, ‘tai crac’ / ‘crack houses’ sydd yn cael eu rhedeg gan ddelwyr cyffuriau, ‘iobs’ wedi meddwi yn cymryd drosodd canol trefi, pobl yn begio ger peiriannau pres twll yn y wal, ceir wedi eu gadael a neb yn eu hawlio, graffiti ac ysbwriel, pobl ifanc yn defnyddio gynau aer i fygwth neu ddychryn pobl neu bobl yn defnyddio tân gwyllt fel arfau. |
Ein Nod
|
Enghreifftiau penaf o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol: |
| Golygfeydd yn y strydoedd: Difrod troseddol / fandaliaeth; begio; ymddygiad bygythiol; yfed gwrthgymdeithasol; puteiniaid ar y strydoedd; marchnad cyffuriau ar y stryd. |
| Cymdogion poenus: Brawychu ag aflonyddu; swnllyd; stwrllyd ac ymddygiad niwsans: galwadau ffug; problemau gydag anifeiliaid; problemau gyda ceir niwsans. |
| Troseddau Amgylchol: Difrod troseddol / fandaliaeth; graffiti a phosteri; ysbwriel a gwastraff; moduron poenus; offer cyffuriau; camddefnyddio; tân gwyllt; budreddi cŵn. |


