Y Tîm
Mae’r tîm yn cynnwys y pedwar aelod isod ac wedi eu lleoli ym Mhencadlys y ‘Central Division’ yn Llanelwy.
Rhif Ffôn 01745 588 513 neu e-bost arsonreductionteam@nthwales.pnn.police.uk
Aelodau’r Tîm
Arson Reduction Manager, NWF&RS - Jane Honey
Police Sergeant, NWP - Andy Piggott
Administrator NWF&RS - Melanie Lawton
Business Arson Warden, NWF&RS - Amanda Hughes
Y Cefndir
Yn Ionawr 2005, cafodd tri Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol (ARTs) eu sefydlu yng Nghymru. Mae pob tîm yn gofalu am wahanol ardaloedd, yn amrywio mewn maint a math. Cafodd y timau yma eu sefydlu yn swyddogol yng Nghaerdydd ar Fawrth y 5ed 2005. Maent yn cael eu hariâu yn llwyr gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a byddant yn parhau tan Ragfyr 2007
Roedd cronfa i’r project ar gael yn dilyn argymhelliad a gafodd ei wneud yn ‘Up in Flames’ ,cafodd ei gomisiynu gan Grŵp Gweithredu Diogelwch Tân yn y Gymuned yn 2003. Roedd yr adroddiad yn dangos fod:
- Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru wedi derbyn 23,000 o alwadau yn ymwneud a Llosgi Bwriadol a galwadau maleisus rhwng 2000 a 2001.
- Llosgi Bwriadol mewn ysgolion yng Nghymru yn costio £2.3 miliwn y flwyddyn.
- Dros 4,500 o alwadau'r flwyddyn yn ymwneud a thanau mewn cerbydau yn costio dros £18.2 miliwn I Gymunedau Cymru.
- 531 o achosion o losgi bwriadol mewn cartrefi gyda chost o £9.1 miliwn.
- Fod Llosgi Bwriadol wedi costio ar gyfartaledd dros £52 miliwn I Gymunedau Cymru rhwng 2000-01.
- Ystadegau yn dangos fod Llosgi Bwriadol yn broblem ddrud ac sydd yn cynyddu yng Nghymru; mae cyflwyno Timau Lleihau Llosgi Bwriadol yng Nghymru yn gam allweddol i leihau Llosgi Bwriadol
Ein Pwrpas
Mae Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol Gogledd Cymru (TLLBGC) yn sefydliad strategol sydd yn helpu partneriaethau ac asiantaethau perthnasol i ddatblygu menter lleihau llosgi Bwriadol.
Cafodd Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol Gogledd ei sefydlu gyda nod tymor byr o leihau mathau o danau bwriadol. Y mathau o danau yw:
- Tanau mewn cerbydau
- Tanau mewn fforestydd, gwair ac eithin.
- Tanau mewn biniau ac yn y blaen.
- Tanau mewn ysgolion
Yn y tymor hir, mae TLLBGC wedi gosod nod i;
- Wella'r modd mae Llosgi Bwriadol yn cael ei fonitro
- Wella’r modd o gasglu data rhyngasiantaethol i helpu lleihau Llosgi Bwriadol
- Lleihau'r nifer o droseddau sydd yn ymwneud a Llosgi Bwriadol i 30% erbyn y flwyddyn 2012 er mwyn cadw o fewn targedau’r Llywodraeth.
- Adnabod cyfle i ariannu'r project er mwyn parhau gyda’r partneriaethau i leihau Llosgi Bwriadol yn y cymunedau lleol.
- Datblygu polisïau ar draws Cymru
|