Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol

Neighbourhood Watch

Gwarchod y Gymdogaeth Cymdeithas Gwladol Gwarchod y Gymdogaeth.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Diffiniad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o dan Act Trosedd ag Anrhefn 1998 yw ymddygiad sydd yn debygol o godi cynnwrf, aflonyddwch neu gyfyngder gan aelod o’r cyhoedd sydd ddim yn yr un adeilad ar cyflawnwr.


www.nwales-fireservice.org.uk

Diogelwch Busnes

Busnesau
Cynghorion ar atal tanau bwriadol i fusnesau (pdf 300kb)

Mae cadw’r lle yn daclus yn arwydd o reolaeth dda ac yn ffordd o ddiogelu’r adeilad rhag tân.
Adeiladau sydd mewn trefn ac yn eu cynnal a chadw yn rheolaidd yw’r mwyaf diogel rhag tân. Y risg tan fwyaf mewn unrhyw adeilad yw tân sydd wedi ei gynnau yn fwriadol. Ar y llaw arall, gall rheolwyr a pherchnogion reoli’r bygythiad yma, oherwydd bod y rhan fwyaf o danau sydd wedi eu cynnau yn fwriadol yn cael eu cynnau y tu allan i’r adeilad. Gall delio gyda gwastraff a sbwriel mewn ffordd bwrpasol leihau’r bygythiad o danau bwriadol.

Rhestr ddiogelwch

  1. Sicrhewch eich bod chi neu berson penodol yn gyfrifol am ddiogelu a chloi’r adeilad ar ddiwedd pob diwrnod.
  2. Sicrhewch nad oes deunydd hylosg (combustible) na hylifau fflamadwy yn cael eu gadael o gwmpas yr adeilad.
  3. Sicrhewch fod neb heb awdurdod yn yr adeilad.
  4. Sicrhau fod y larwm a goleuadau allanol yn cael ei rhoi ymlaen.
  5. Defnyddiwch gynhwysyddion pwrpasol gyda chaead metel ar gyfer cadw gwastraff, gan labelu’r cynhwysydd gwastraff peryglus yn glir.
  6. Ar ddiwedd pob diwrnod gwaith neu yn amlach os angen , symudwch y gwastraff o’r adeilad gan wneud yn siŵr nad yw’n gyraeddadwy i’r cyhoedd.
  7. Sicrhewch fod y gwastraff sydd yn cael ei losgi ar eich safle o dan oruchwyliaeth pob amser ac yn cael ei reoli yn ofalus.
  8. Sicrhewch fod gwastraff, ysbwriel neu ddeunydd pacio yn cael eu symud i storfa ddiogel, gan wneud yn siŵr hefyd fod casgliad o’r gwastraff i gael eu gwaredu yn beth rheolaidd.
  9. Sicrhewch fod cynhwysyddion y gwastraff wedi cael eu diogelu ddigon pell o’r adeilad gyda chadwyn fel nad oes posib ei symud.
  10. Sicrhewch fod biniau neu gynhwysyddion gwastraff o leiaf 2 fedr i ffwrdd o unrhyw ffens terfyn, gan adael o leiaf 10 medr o’r adeilad ei hun.
  11. Gwaredwch o wastraff neu unrhyw ddeunydd adeiladu megis brics mor fuan â phosib, er mwyn atal unrhyw act o fandaleiddio neu anhrefn gymryd lle.
  12. Sicrhewch fod y cloeau yn gweithio yn briodol ar y drysau a ffenestri.
  13. Riportiwch unrhyw ddigwyddiadau sydd ddim yn rhai brys i’r Heddlu (0845 607 1001) neu’r Gwasanaeth Tân (01745 352800). Deialwch 999 ar gyfer galwadau brys.

Cysylltu
Ar gyfer mwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â Amanda Hughes, Warden Llosgi Bwriadol ar gyfer Busnesau.
E-bost: Amanda.hughes@nthwales.pnn.police.uk
Tel: 01745 588456 neu 07920084616
Fax: 01745 588413

Diogelwch Fferm

Cyflwyniad
Pob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig, mae ar gyfer taled 1,700 o adeiladau fferm a 66,000 o laswelltir (caeau gwair) yn cael eu difetha gan dân. Mae 50% o’r tanau yma yn cael eu cynnau yn fwriadol. Mae ffermydd a chefn gwlad yn agored i danau wedi cael eu cynnau yn fwriadol oherwydd eu lleoliadau unig, terfynau agored, gwellt a gwair sydd yn hawdd eu cynnau.

  • Beth i’w wneud os oes tân?
    Galw'r gwasanaeth tân ar frys
  • Peidiwch â cheisio diffodd y tân os nad yw’n ddiogel i wneud hynny.
  • Gyrrwch rywun at fynediad y ffarm er mwyn cyfeirio'r gwasanaeth tân
  • Byddwch yn barod i symud yr anifeiliaid o lwybr y tân.
  • Paratowch unrhyw beiriant fferm i roi cymorth i’r gwasanaeth tân.
Fly Tipping

Tipio anghyfreithlon

Nid yn unig mae tipio gwastraff anghyfreithlon yn hull i’r llygad, ond mae hefyd yn beryglus. Os ydych erioed yn dod ar draws gwastraff wedi cael ei dipio yn anghyfreithlon, reportiowch o i’ch cyngor sir lleol fel bod y gwastraff yn cael ei symud mor fuan â phosib.

Mae’r asiantaeth yr amgylchedd yn ymchwilio i ddigwyddiadau yn ymwneud a thipio gwastraff anghyfreithlon ar raddfa uwch, gwastraff peryglus a gangiau sy’n trefnu tipio gwastraff. Bydd yr awdurdodau lleol yn gofalu am glirio gwastraff anghyfreithlon ar dir cyhoeddus gan gynnwys ffyrdd, llefydd parcio a thipio gwastraff ysgafn ar dir preifat.

  • Os ydych yn dod o hyd i wastraff anghyfreithlon neu gar wedi ei adael.
    Peidiwch â chyffwrdd, efallai ei fod yn beryglus.
  • Archwiliwch y gwastraff gyda llygad yn unig er mwyn penderfynu beth yw ei gynnwys a faint o wastraff sydd yno.
  • Cymerwch nodyn o’r union leoliad ac os yw wrth ymyl dwr megis afon. Hefyd os yn bosib nodwch beth y gweloch a pha amser.
  • Peidiwch ag aflonyddu'r lleoliad, efallai bod tystiolaeth i helpu i ddarganfod y tramgwyddwyr a’u herlyn.
  • Riportiwch y gwastraff i’ch cyngor sir leol. COFIWCH - Peidiwch â rhoi eich hun mewn risg.


Cysylltu

Ar gyfer mwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch a’ch awdurdod lleol.

Anglesey County Council
Council Offices
Llangefni
Anglesey
LL77 7TW
Tel: 01248 750057
E-mail: webmaster@anglesey.gov.uk

Conwy Councty Borough Council
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU
Tel: 01492 574000
E-mail: information@conwy.gov.uk

Denbighshire County Council
County Hall
Wynnstay Road
Ruthin
LL15 1YN
Tel: 01824 706000
E-mail: enquiries@denbighshire.gov.uk

Flintshire County Council
County Hall
Flintshire
CH7 6NB
Tel: 01352 752121
Web:www.flintshire.gov.uk

Gwynedd County Council
Shirehall Street
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
Tel: 01286 672255
E-mail: enquiries@gwynedd.gov.uk

Wrexham County Borough Council
The Guildhall
Wrexham
LL11 1AY
Tel: 01978 292000
E-mail: webmaster@wrexham.gov.uk

 

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru