Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yw gwasanaeth heddlu cenedlaethol y rheilffyrdd sy’n darparu gwasanaeth plismona i gwmnïau rheilffordd, eu staff ac i deithwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Hefyd, mae’r Heddlu yn gyfrifol am blismona system Rheilffordd Danddaearol Llundain, Rheilffordd Ysgafn y Dociau, System Tram Metro’r Canolbarth a Thramgyswllt Croydon.
Ein nod yw:
Darparu gwasanaeth plismona sy’n darparu amgylchedd diogel ar y rheilffyrdd heb darfiadau ac ofn troseddau.
Rhif Rhadffon Cenedlaethol 0800 40 50 40 – ar gyfer digwyddiadau heb fod yn rhai brys.
Gogledd Cymru
Yng Ngogledd Cymru, mae gan yr HTP ddwy orsaf, ym Mangor a’r Rhyl, ac oddi yno, anfonir swyddogion i wasanaethu ar y llwybrau teithio o amgylch arfordir Gogledd Cymru, gan dargedu’n arbennig unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n cael effaith niweidiol ar y gymdeithas oddi amgylch yn gyffredinol. Fel mewn unrhyw le arall ym Mhrydain, mae’r HTP yn dibynnu i raddau helaeth ar weithio mewn partneriaeth gydag eraill, boed hynny gyda chwmnïau trên, Heddlu Gogledd Cymru, y cyhoedd sy’n teithio, neu drigolion lleol. Mae ganddo rif ffôn yn arbennig i chi ei ddefnyddio er mwyn rhoi gwybod am droseddau nad ydynt yn rhai sydd angen talu sylw brys iddynt, neu i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiad a allai fod o gymorth i ni atal neu ddatrys trosedd.
|