Chi a'ch Teulu
|
Eich Cartref
|
|---|---|
Eich Cerbyd
|
Mynd i Ffwrdd
|
Crwydro / 'Backpacking' |
![]() |
Os yr ydych yn fyfyriwr yn cymryd blwyddyn i ffwrdd i drafaelio neu rywun sydd yn hoffi crwydro llwybrau maith, gall crwydro fod yn hwyl mawr ond dylech gymryd i ystyriaeth rhai ffactorau diogelwch yn gyntaf. |
|---|
Y rhyddid o drafaelio yn eich amser eich hun sydd yn gwneud ‘backpacking’ mor gyffroes ond gwnewch yn siŵr ei bod wedi gwneud cynllun neu fap o’ch taith cyn dechrau, hynny yw nodi'r llefydd rydech yn ymweld â pha amser yr ydych yn cyrraedd yno. Os yn bosib rhowch gopi o’r cynllun / map i rywun yn eich teulu neu ffrind agos er mwyn iddynt gael ryw syniad ble yr ydych ar unrhyw amser penodol. Trïwch gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu trwy ffonio neu e-bost. Mae gan y rhan fwyaf o wledydd ‘internet cafes’ ble gallwch gysylltu gyda ffrindiau a theulu er mwyn dweud eich bod yn iawn neu ddweud eich bod wedi penderfynu newid planiau ar y cynllun trafaelio. Efallai gallwch drafaelio gyda ffôn symudol tri-band neu ddyfais e-bost llaw er mwyn cysylltu gyda rhywun ble bynnag y byddwch yn y byd, ond mae trafaelwyr profiadol yn ystyried y teclynnau yma yn gost ychwanegol ac eitem ddeniadol arall i bigwr pocedi neu ladron. Mae adran yn wefan y Swyddfa Dramor yn cynnwys gwledydd y maent yn cynghori i chwi beidio trafaelio yno, maent hefyd yn rhestru gwledydd y dylech ond fynd yno ar fusnes yn unig. Dilynwch gyngor y Swyddfa Dramor a pheidiwch byth a chael eich temtio i ymweld â ‘global hotspot’. Cofiwch fod newyddiadurwyr a phobl yn yr un maes wedi cael hyfforddiant dwys cyn mynd i’r wlad o’r fath ac yn cael eu gweld fel ymwelwyr cyfreithlon. Mae llawer o grwydrwyr / ‘backpackers’ wedi cael eu hamau o ysbïwriaeth sydd yn arwain at gael eu herwgipio, carcharu neu waeth. Dilynwch gyngor y BBC ar ddiogelwch personol a gwnewch yn siŵr fod ganddo’ch yswiriant trafaelio dilys sydd yn para ar hyd eich taith be bynnag fo’r gweithgaredd. |



