Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Cyn Mynd i Ffwrdd

Cyngor y Swyddfa Bost
Cyngor ar sut i gael eich post wedi ei ailgyfeirio tra eich bod ar wyliau.

Gwefan y ‘Foreign and Commonwealth office.’
Cyngor swyddogol gan y llywodraeth ar ddiogelwch rownd y byd.

The Global Voyage
Cymorth a chyngor ar grwydro gan gynnwys ‘InterRail’

 

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Cyn Mynd i Ffwrdd

travel

Cyngor syml ar sut i adael eich eiddo yn ddiogel cyn i chi fynd i ffwrdd ar wyliau.

Os yw yn bosib cael rhywun i edrych ar ôl eich cartref tra eich bod i ffwrdd yna gorau byd, hefyd ceisiwch adael eich cartref edrych fel pabau rhywun yn byw ynddo e.e. gadael golau neu radio yn mlaen.

Os byddwch yn mynd i ffwrdd am gyfnod ceisiwch osgoi gadel eich post gasglu mewn pentyrrau drwy ddefnyddio gwasanaeth ‘Cadw’n Ddiogel / Keep Safe’ gan y Post Brenhinol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’ch Swyddfa Bost lleol. Dewis arall yw gofyn i gymydog gasglu eich post nes y dewch yn ôl.

Gadewch rifau cysylltu neu gyfeiriad i’ch cymydog gael gafael arnoch rhag ofn argyfwng. Os nad ydach wedi gadael goriad eich cartref i’ch cymydog gwnewch yn siŵr fod y cymydog o leiaf yn gwybod sut i gael gafael arnoch neu ar aelod o’ch teulu.

Gadewch i ffrind neu aelod o’ch teulu wybod eich bod yn mynd i ffwrdd a phryd i ddisgwyl chi yn ôl. Peidiwch â siarad yn uchel am eich trip yn y dafarn cyn i chi fynd a pheidiwch â dweud wrth ormodaeth o bobl, byddwch y synnu pa mor gyflym mae newydd fel hyn yn trafaelio rownd yn y gymuned!

Os oes ganddo’ch amser cyn i chi fynd i ffwrdd, gwnewch restr gyfeirio (check list) o’r pethau rydech yn bwriadu mynd hefo chi. Bydd yn ddefnyddiol wrth bacio am adref i weld os yw popeth ganddo’ch.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru