Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Ymwelwyr Ffug

Cyngor Lleihau Troseddau Gan Y Swyddfa Gartref.
Diogelu eiddo, lladrad ffonau symudol, troseddau moduron a mwy.

Eiddo Personol
Rydem mewn oes lle mae ein pocedi wedi eu llenwi gyda nwyddau hanfodol megis ffonau symudol, cardiau credyd, pyrsau a waledi. Felly darllenwch ei gyngor i’w cadw yn ddiogel.
possessions

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Ymwelwyr Ffug

ymwelwyr ffug

Yn anffodus ni allwch fod yn siŵr bob tro fod pobl sydd yn cnocio ar eich drws yn dweud y gwir am eu henwau, sefyllfa a’u swyddi. Gelwir y rhain sydd yn dweud anwiredd yn Ymwelwyr Ffug, gallant fod yn argyhoeddiadol ag yn ddarbwyllol iawn (maent fel arfer ar ôl eich arian).

Efallai bydd Ymwelwyr Ffug yn cogio fod eu car wedi torri i lawr a’u bod angen ffonio am gymorth. Mae llawer yn cogio eu bod yn gweithio i gwmni trydan neu ddŵr a bod angen edrych ar eich mesurydd. Hefyd mae rhai ohonynt hwy yn dweud eu bod yn gweithio i’r cyngor a’u bod yn gwneud gwaith ymchwil. Pa bynnag reswm y bydd ymwelydd yn ei roi, gwnewch yn siŵr nad ydyw yn ceisio mynd i mewn i’ch cartref i ddwyn.

Mae oddeutu 12,000 o achosion o ‘fyrgleriaeth gwrthdyniad’ pob blwyddyn, ble mae ymwelwyr ffug yn mynd i mewn i gartrefi i ddwyn arian neu bethau gwerthfawr, tra bod perchennog y tŷ yn cael ei sylw wedi ei ddenu gan rywun neu rywbeth arall. Weithiau maent yn gweithio mewn parau, gydag un yn gwneud y siarad tra bo’r llall yn dwyn. Yn aml iawn yr henoed yw’r target.

Byddwch ar eich gwyliadwriaeth bob amser y mae rhywun yn cnocio ar eich drws. Edrych allan drwy’r ffenestr i weld pwy sydd wrth y drws. Os nad ydych yn siwr pwy sydd yno, agorwch y ffenestr ychydig bach i’w holi yn lle agor y drws. Gallwch hefyd edrych trwy'r gwydr bach sydd ar y rhan fwyaf o ddrysau i weld pwy sydd y tu ôl y drws. Os yw eich golwg yn ddrwg yna gallwch brynu gwydr lletach gyda lens cryfach.

Rhowch y gadwyn neu far ar y drws cyn ei agor a siaradwch trwy’r bwlch. Gallwch roi drych ar y wal tu allan er mwyn gweld pwy rydych yn siarad gydag. Ar ôl i’r ymwelydd adael a chithau wedi cau'r drws, gwnewch yn siwr eich bod wedi datgysylltu'r gadwyn oddi ar y drws, rhag ofn i aelod arall y cartref fethu dod i mewn pe baech wedi digwydd mynd allan.

Gwnewch yn siwr fod eich drws cefn wedi cloi os yw rhywun yn cnocio ar y drws ffrynt. Weithiau mae lladron yn gweithio gyda'i gilydd, bydd un yn cadw perchennog y tŷ i siarad tra bod y llall yn ceisio dod i mewn trwy’r drws cefn.

Cofiwch, rhowch y gadwyn ar y drws, gofynnwch i ymwelwyr o’r cyngor ag o unrhyw sefydliadau eraill am gerdyn adnabod. Os ydych angen sbectols yna peidiwch â meddwl eich bod yn ddigywilydd yn cau'r drws a mynd i’w nôl. Ni fydd ymwelydd dilys yn meindio. Os ydych yn dal i amau'r ymwelydd, gofynnwch i’r person adael a gofyn iddynt wneud trefniant y tro nesaf er mwyn i chi gael cyfle i gael rhywun gyda chi. Yn syml y rheol yw, os ydych yn amau'r ymwelydd diarth, peidiwch ai adael i mewn.

Fel rhan o ymgyrch 'Lock, Stop, Chain, Check' gan y llywodraeth, cynghorau lleol, gwasanaethau cymdeithasol, a chanolfanau ‘Age Concern’ gallant ddarparu mwy o wybodaeth i bobl mewn oed. Gallant hefyd helpu gyda gwydrau bach i weld pwy sydd wrth y drws, cadwynau a drychau. Mewn rhai amgylchiadau gallant ddarparu larwm ymosod personol sydd wedi ei gysylltu i ganolfan reoli.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru