Chi a'ch Teulu
|
Eich Cartref
|
|---|---|
Eich Cerbyd
|
Mynd i Ffwrdd
|
Larwm Byrgler |
![]() |
Nid oes rhaid torri’r banc i gael larwm byrgler wedi ei osod yn eich tŷ. Gall wneud i chi deimlo ychydig yn fwy diogel yn eich cartref. |
|---|
Mae ystadegau gan y llywodraeth yn dangos fod o gwmpas 60% o fyrgleriaeth mewn cartref gyda larwm byrgler ynddo yn aflwyddiannus. Mae hyn yn awgrymu fod cael larwm byrgler yn ddull ataliol defnyddiol ar gyfer darpar droseddwyr. Cyn i chi fynd i brynu system ddiogelwch newydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn ein cyngor ar ddyfeisiadau diogelwch. Mae Cymdeithas Diwydiant Diogelwch Prydain (British Security Industry Association) yn awgrymu y dylech ddefnyddio cwmni proffesiynol i osod larwm byrgler a’i gofrestru gyda ‘arolygaeth larwm’ gan yr heddlu. Felly gofynnwch i weld dogfennau cofrestru gan gwmnïau diogelwch gan edych am y manylion canlynol.
Deliwch yn unig gyda chwmnïau sydd yn cynnig arolwg ar eich tŷ am ddim ac sydd hefyd yn cynnig dyfynbris (quotation) ysgrifenedig heb rwymedigaeth (obligation). Trowch eich cefn ar gwmnïau sydd yn trio eich dychryn gyda storiau neu ystadegau am fwrgleriaeth. Mae bwrgleriaeth yn llai cyffredin na’r ydych yn ei feddwl ac mae achosion o ymosodiadau treisgar gan ladron yn y cartref yn brin iawn. Dylech feddwl am ddweud wrth eich heddlu lleol am gwmnïau sydd yn defnyddio tactegau i ddychryn pobl am ystadegau byrgleriaeth. Mae ambell system larwm gwahanol i’w gael. Y cyntaf ar mwyaf cyffredin yw'r system gloch draddodiadol. Os caiff ei osod gan gwmni proffesiynol gall gostio o gwmpas £500 am ei osod a thua £65 i’w gynnal a chadw pob blwyddyn. Gosodwch o eich hun (DIY) Os oes ganddo’ch nifer o eiddo gwerthfawr yn eich cartref neu eich bod yn byw mewn lle anghysbell, yna efallai bydd yn well syniad mynd am yr opsiwn drytaf sef larwm sydd yn cael ei fonitro. Mae larwm sydd yn cael ei fonitro wedi ei gysylltu gyda ‘chanolfan derbyn larwm’ ble bydd rhywun yn gadael i’r heddlu wybod os oes rhywun wedi torri i mewn i’ch cartref. Mae’r larwm yn costio o gwmpas £800 I £900 I’w osod, ac o gwmpas £200 y flwyddyn i’w fonitro, cynnal a chadw. Y gwahaniaeth mwyaf rhwng ‘larwm cloch yn unig’ a’ larwm sydd yn cael ei fonitro’ yw’r ymateb gan yr heddlu. Dylech wybod na ni wnaiff yr heddlu ymateb i ‘larwm cloch yn unig’ oni bai eu bod yn cael eu galw gennych chi, cymydog neu deulu i gadarnhau fod yna rhywun yn torri i mewn i’ch tŷ. Technoleg Diweddaraf. Cyn penderfynu ar y math o larwm i’w brynu, trafodwch gydag eich cwmni yswiriant gyntaf. Gallant gynnig disgownt i ffwrdd o’ch premiwm ond bydd dibynnu ar y math o larwm sydd ganddo’ch a pwy ddaru ei osod.
|



