Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Prynu Ar y We

Gwybodaeth Personol
statment

Cyngor gan y BBC ar droseddau cardiau credyd
Cyngor beth i’w neud os yw eich cerdyn wedi cael ei ddefnyddio trwy dwyll.

BBC Webwise
Y gyfraith gyda diogelwch cyfrifiaduron a gwarchod gwybodaeth.

APACS Card Watch
Pa gamau i’w gymryd os ydych yn ddioddefwr twyll drwy gardiau credyd.

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Prynu Ar y We

ar y we

Phishing - Gwyliwch nad oes neb yn eich twyllo chi

Phishing - Pa gamau i'w gymryd i'ch atal rhag bod yn ddioddefwr

Yn y blynyddoedd diwethaf mae e-fasnachu (e-commerce) wedi cynyddu yn aruthrol ar draws y byd, ond mae adroddiadau o broblemau wedi troi rhai pobl i ffwrdd o e-fasnachu. A oes un ochr i’r stori yn unig?

Er gwaethaf y nifer o bryderon, mae rhai yn dadlau fod prynu ar y we yn fwy diogel na phrynu dros y ffôn a throsglwyddo eich cerdyn i rywun mewn siop. Mae hyn oherwydd, os yw'r taliad yn cael ei drosglwyddo yn y dull priodol yna bydd eich manylion bancio wedi cael ei ‘amgryptio’ (encrypted), golygai hyn na all rhywun arall ddarllen eich manylion oni bai am y cwmni sydd yn delio gyda’r taliad sef y banciau y rhan fwyaf o’r amser.

Os ydych yn dal yn ansicr yna mae, ‘Card Watch’, sef grŵp bancio'r Deyrnas Unedig sydd yn gweithio gyda’r heddlu ac adwerthwyr i arbed twyll cardiau credyd yn cynnig y cyngor canlynol os ydych am brynu ar y we:

  1. Gwnewch yn siŵr fod eich porwr gwe (web-browser - meddalwedd sydd yn eich galluogi i weld tudalennau ar y we, Internet Explorer a Netscape yw’r rhai mwyaf cyffredin) ar y lefel diogelwch uchaf. Edrychwch yn ‘Internet Options’ i weld os yw’r opsiwn wedi cael ei ddewis.

  2. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r fersiwn diweddaraf o’ch porwr gwe oherwydd yn aml iawn maent yn cynnwys mesurau diogelwch gwell. Gallwch lawr lwytho (download) y fersiynau yma am ddim gan Microsoft neu Netscape. Os na ydych yn siŵr yna cysylltwch â’ch Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd.

  3. Cyn prynu o wefan, gwnewch gofnod fanylion yr adwerthwr gan gynnwys eu cyfeiriad a’u rhif ffôn. Os nad yw’r manylion yma ar gael yna ystyriwch brynu o rywle arall, peidiwch â dibynnu ar gyfeiriad e-bost yn unig.

  4. Peidiwch â rhoi eich manylion personol ar wefan oni bai fod yr ‘icon’ diogelwch yn cael ei ddangos (llun clo) yng ngwaelod y dudalen ar y dde. Gallwch glicio ar yr ‘icon’ bach yma i weld os oes gan yr adwerthwr dystysgrif diogelwch. Dylai’r dystysgrif egluro'r math o amgryptio sydd yn cael ei ddefnyddio gan yr adwerthwr. Peidiwch â phrynu gan gwmnïau sydd ddim yn defnyddio tystysgrif diogelwch. Dylasai cyfeiriad y dudalen y mae yn gofyn am fanylion personol ddechrau gyda https://.

    secure

  5. Os oes na ydych yn siwr neu gyda cwestiynau i ’w gofyn, yna cysylltwch gyda’r cwmni yn uniongyrchol drwy eu ffonio er mwyn rhoi eich meddwl ar orffwys.

  6. Argraffwch yr order os yw yn bosib, gan ystyried argraffu copi o’r telerau ac amodau er mwyn gweld beth yw’r polisïau ar nwyddau diffygiol rhag ofn bod angen gyrru rhywbeth yn ôl. Byddwch yn ymwybodol am gostau eraill megis TAW a thâl am drosglwyddo nwyddau. Byddwch yn ofalus os am brynu dros dŵr, os oes problem yn codi, gall fod yn anodd iawn i gael gafael ar y cwmni.

  7. Cyn gynted y cewch ddatganiad eich cyfrif gan y banc gwnewch yn siŵr fod popeth yn adio i fyny. Os ffeindiwch drosglwyddiad yn y datganiad yr ydych yn sicr na wnaeth o’ch chi, yna cysylltwch â’ch banc mor fuan â phosib.

  8. Gwnewch yn siwr eich bod yn deallt y math o daliad yr ydych yn gwneud, boed yn un taliad llawn neu yn gyfres o wahanol daliadau.

  9. Peidiwch byth a datgelu eich rhif PIN wrth neb gan gynnwys plismyn na phobl o’r banc. Peidiwch chwaith a ysgrifennu y rhf i lawr na ei yrru dros y rhyngrwyd.

  10. Os oes ganddo’ch unrhyw amheuaeth am ddefnyddio eich cerdyn yna defnyddiwch ddull arall o dalu.

 

Phishing - Gwyliwch nad oes neb yn eich twyllo chi.

Beth yw 'Phishing’

Phishing yw term sydd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio gweithred o honni hunaniaeth sefydliadau cyfreithlon, gan ddefnyddio e-bost neu wefannau gyda’r bwriad o ddarbwyllo defnyddwyr y rhyngrwyd i rannu eu henwau, cyfrineiriau a gwybodaeth personol er mwyn cyflawni twyll. Term sydd yn cael ei ddefnyddio gan hacwyr yw ‘phishing’, cafodd yr ‘f’ei gyfnewid gyda ‘ph’ yn y saith degau, ble roedd ‘Phone Phreaking’ yn cael ei gyflawni. Yn Saesneg gallwch ei alw yn "fishing for consumers' identity and financial information", (pysgota am fanylion personol). Fel term, mae ‘phishing’ yn air raddol newydd i’r iaith Gymraeg ar Saesneg, y rhan amlaf defnyddiwn eiriau megis ‘hoax’, pranc , twyll neu ‘scam’ i ddisgrifio mathau o dwyll.

Nid yw ‘phishing’ yn beth newydd, ond mae’r nifer o’r achosion drwy ddefnyddio e-byst a gwefannau fyg yn cynyddu o hyd. Mae’r twyllwyr yn newid eu tactegau, cynnwys a’u cyflwyniadau yn aml, yn anffodus bydd llawer ohonom yn debygol o ddisgyn i mewn i’w trap.

Phishing - Pa gamau i'w gymryd i'ch atal rhag bod yn ddioddefwr

Byddwch yn amheus o unrhyw gais sydd yn gofyn am eich manylion ariannol.

  • Os nad yw’r e-bost gydag arwyddedig digidol, ni allwch fod yn siŵr ei fod ddim yn ffug.
  • Mae ‘phishers’ yn debygol o ddefnyddio dulliau cyffroes neu a fydd yn peri gofid yn eu he-byst, er mwyn cael pobl i ymateb yn gyflym.
  • Maent yn debygol o ofyn am fanylion tebyg i rifau cardiau credid, cyfrineiriau, rhifau yswiriant cenedlaethol ac yn y blaen.
  • Rhan amlaf, nid yw e-byst gan ‘phishers’ yn cyfeirio atoch yn bersonol, tra bod e-byst dilys gan eich banciau a chwmnïau e-fasnachu yn cyfeirio atoch yn bersonol.


Peidiwch â defnyddio linciau mewn unrhyw e-bost i fynd i wefannau allanol os ydych yn amau nad yw’r e-bost yn ddilys

  • Os ydych yn amau rhywbeth, ffoniwch y cwmni, neu logiwch i mewn i’w gwefan yn uniongyrchol drwy deipio’r cyfeiriad yn eich porwr gwe.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn osgoi llenwi unrhyw ffurflen wybodaeth mewn e-byst sydd yn gofyn am fanylion personol.

  • Dylech gyfathrebu gwybodaeth megis cardiau credyd ac yn y blaen dim ond trwy ddefnyddio gwefannau diogel neu dros y ffon.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio gwefannau diogel wrth gyflwyno gwybodaeth bancio bersonol neu wybodaeth sensitif arall trwy eich porwr gwe.

  • Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod ar wefan ddiogel, edrychwch ar ddechrau cyfeiriad y wefan yn nhop eich porwr gwe - dylai fod fel yma "https://" yn hytrach na "http://"

Ystyriwch ddefnyddio porwr gwe (web browser) gyda bar offer arbennig i atal twyll gan wefannau ‘phishing’.

  • Mae ‘EarthLink ScamBlocker’ yn rhan o borwr gwe rhad ac am ddim sydd yn eich rhybuddio o oes bygythiad.
  • Mae’n rhad ac am ddim, gallwch ei lawr lwytho gan ddefnyddio’r linc ganlynol www.earthlink.net/earthlinktoolbar

Edrychwch ar fanylion eich cyfrif banc ar y we yn aml.

  • Peidiwch â gadael misoedd fynd heibio cyn edrych yn eich cyfrif ar y we.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ddatganiadau eich cyfrif banc, cardiau credyd ac yn y blaen yn rheolaidd iawn. Os oes rhywbeth amheus i’w weld, yna cysylltwch gyda'r banc ar unwaith.

Gwnewch yn siŵr fod eich porwr gwe fynnu i’r safon ddiweddaraf.

  • Er enghraifft os ydych yn defnyddio Microsoft Internet Explorer, dylech fynd i wefan Microsoft a llawr lwytho diweddariad i’r rhaglen. www.microsoft.com/security

Riportiwch pob e-bost amheus i’r un o’r grwpiau canlynol

  • Gyrrwch yr e-bost ymlaen i reportphishing@antiphishing.com neu spam@uce.gov
  • Gyrrwch yr e-bost ymlaen i’r cwmni y maent yn eu dynwared e.e. spoof@ebay.com
  • Wrth yrru e-bost ymlaen, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y neges wreiddiol i gyd.

Gwybodaeth Personol

Top
 

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru