Chi a'ch Teulu
|
Eich Cartref
|
|---|---|
Eich Cerbyd
|
Mynd i Ffwrdd
|
Cynnwys Eich Cerbyd |
|
|---|
Mae pob un eiddo personol yr ydych yn ei adael yn y car mewn perygl o gael ei ddwyn. Peidiwch â rhoi'r cyfle i ladron ddwyn eich eiddo o’r car - byddant yn cymryd unrhyw gyfle rowch chi iddynt. Ar wahân i sterios ceir, yr eitemau mwyaf cyffredin i gael eu dwyn o geir yw dillad. Yn ychwanegol mae CD a thapiau, cyfrifiaduron (gliniaduron), ffonau symudol, bagiau, sbectolau haul a chardiau credyd i gyd yn eitemau sydd yn cael eu dwyn yn aml. Y rheswm eu bod yn cael eu dwyn yw am eu bod yn cael eu gadael mewn golwg i bawb gael eu gweld. Os na guddiwch chi eitemau yn eich car bydd lladron yn ildio i demtasiynau ag yn torri fewn i’ch car, felly peidiwch â gadael eitemau o fewn golwg pobl. Er na sterios yw’r eitemau mwyaf cyffredin i gael eu dwyn, mae hyd yn oed bagiau siopa, sigarennau a newid man (arian) yn gallu annog lleidr i dorri mewn i’ch car. Gan na fedrwch guddio eich sterio allan o’r golwg, dyma gyngor ar sut i arbed eich car fod yn darged i ladron. Mae llawr o systemau adloniant mewn ceir modern gyda mesurau diogelwch oddi fewn y system megis gwyneb symudadwy ar y sterio. Os oes gan eich cerbyd chi'r nodwedd yma, defnyddiwch o, symudwch y gwyneb a mynd ag o gyda chi, hyd yn oed os ydych yn gadael eich car am gyfnod byr iawn. Nodwedd arall fodern yw cod diogelwch oddi fewn eich sterio. Os yw'r sterio yn cael ei dynnu o’ch car a’i osod mewn car arall yna bydd angen y cod gwreiddiol er mwyn i’r sterio weithio. Cadwch y cod mewn rhywle diogel yn eich cartref ac nid yn eich car am resymau amlwg. Hefyd cadwch gofnod o’r rif cyfresol (serial no) y sterio yn rhywle yn eich cartref. Mae oddeutu 150,000 o ddisgiau treth (tax disks) yn cael eu dwyn o geir pob blwyddyn. Gall y rhain gael eu hymyrru eu gwerth ymlaen i rywun arall. Gallwch ddiogelu eich disg treth gyda daliwr atal ymyrriaeth (tamper proof disk holder) sydd ar gael gan eich Swyddfa Bost lleol. Gall un o’r rhain arbed y drafferth o ffenestr eich car wedi cael ei falu neu eich disg treth wedi cael ei ddwyn. Gosodwch ddyfais diogelwch yn eich car megis larwm a dewiswch le da i barcio i leihau'r siawns o rywun dorri mewn i’ch car. Ac yn olaf, peidiwch ag anghofio cau'r ffenestri, to-haul, cloi'r car a pheidiwch BYTH a gadael plant neu anifeiliaid anwes yn y car ar ben eu hunain.
|

