Chi a'ch Teulu
|
Eich Cartref
|
|---|---|
Eich Cerbyd
|
Mynd i Ffwrdd
|
Dyfais Llwybro |
Yn y blynyddoedd diwethaf mae diogelwch ceir wedi gwella yn aruthrol gyda dyfodiad y ‘Dyfeisiadau Llwybro’ (Tracking Device). Darllenwch ymlaen os am wybod mwy… |
|---|
Mae’r system yn gweithio drwy ddefnyddio lloeren neu radio i leoli lle mae’r car ar ôl iddo gael ei ddwyn. Er bod y system yn eithaf drud, mae’n profi i fod reit boblogaidd gyda pherchnogion ceir moethus a drud. Yn gyffredinol mae’r dechnoleg wedi cael ei osod yn y car yn ddymunol, bydd wedi cael ei guddio o fewn y car ac nid oes rhybuddion ar y ffenestri i rybuddio’r lladron am y dechnoleg. Mae hyn yn gwneud y lleidr yn llai hyderus am ddwyn ceir ac yn eu rhwystro i dynnu’r ddyfais o’r car. Os yw’r car yn cael ei ddwyn yna mae’ r ddyfais yn cael ei actifadu i yrru signal unigryw i’r heddlu i ddilyn y car. Mae rhai systemau hyd yn oed yn gallu darganfod symudiad yn y car heb awdurdod a bydd wedyn yn rhybuddio’r perchennog fod eu car wedi cael ei ddwyn. Drwy ddefnyddio ‘Global Positioning System’ (GPS) gall y dyfais llwybro binbwyntio eich car a gyrru'r wybodaeth yn syth i’r heddlu. Mae gan y rhan fwyaf o’r heddlu ddyfeisiadau yn eu ceir i ddarllen y wybodaeth. Felly os yr ydych yn benderfynol i atal eich car rhag cael ei ddwyn yna bydd yn syniad gwario punt neu ddwy i gael y ddyfais soffistigedig yma.
|

