Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Larwm Ceir

Thatcham
Cynnal ymchwiliadau diogelwch ar gyfer cwmnïau yswiriant.

Vehicle Systems Installation Board
Mae’r VSIB yn gosod safon ar broffesiwn gosod systemau ceir.

Gwefan Troseddau Moduro’r Llywodraeth.
Pa mor ddiogel yw eich car? Profwch eich gwneuthurwyr a’r model yma.

Cyfraith Gwregys Diogelwch (PDF 500kb)
Seat Belt Law
Cyfraith Newydd Gwregys Diogelwch

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Larwm Ceir

car alarm

Os oes ganddo’ch gar newydd, mwy na thebyg fod gan y car larwm neu ddyfais llonyddu arno yn barod. Os na, yna darllenwch yr opsiynau canlynol.

Mae lladrad ceir newydd wedi gostwng, hwyrach y rheswm pennaf am hyn yw am fod y rhan fwyaf o geir newydd yn dod gyda larwm a dyfais llonyddu wedi eu gosod ynddynt yn barod. Mae larwm car yn effeithiol iawn i atal lladron rhag dwyn ceir, hefyd mae’n helpu i atal lleidr rhag dwyn cynnwys y ceir. Mae'r dyfeisiadau llonyddu (engine immobilisers) hefyd yn effeithiol dros ben gan eu bod yn rhwystro'r car rhag tanio pe bai rhywun yn trio dwyn y car.

Gyda chyfuniad o’r ddau ddyfais mae’n ddigon i arwain lleidr i ffwrdd o ddwyn eich car. Os oes ganddo’ch gar eithaf hen yna gallwch brynu system i’w osod yn eich car.

Mae ‘The Motor Insurance Repair Research Centre’ (MIRRC) sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel ‘Thacham’ wedi bod yn profi systemau diogelwch ceir ers 1992. Maent wedi cyhoeddi rhestr sydd yn adolygu'r systemau diogelwch a brofwyd, ac yn argymell system categori un sydd yn cynnwys system sydd yn dod ymlaen yn awtomatig wrth i chi adael y car, system cod ar yr allwedd a seiren wedi ei gysylltu i fatri ychwanegol.

Os oes ganddoch larwm yn barod a dim dyfais llonyddu yna peidiwch â phoeni,g allwch osod dyfais llonyddu yn ychwanegol at eich larwm. Hefyd gallwch uwchraddio eich larwm i gyrraedd categori un ym meini prawf Thatcham.

Nid yw gosod larwm sydd wedi cael ei awgrymu gan Thatcham yn mynd i sicrhau na gewch eich car ei ddwyn ond bydd yn lleihau’r siawns yn aruthrol. Am fwy o fanylion am systemau diogelwch ceir ffoniwch linell gymorth Diogelwch Cenedlaethol Moduron ar 0870 5502006

Mae’n bwysig fod dyfeisiadau llonyddu a larwm yn cael eu gosod yn gywir yn y car. Mae’r AA yn awgrymu i’r dyfeisiadau gael eu gosod gan osodwyr cymeradwy'r ‘Vehicle Systems Installation Board (VSIB)’. Byddwch yn barod i dalu oddeutu £120 am ddyfais llonyddu a mwy fyth am system wedi ei gyfuno gyda larwm.

Os oes ganddo’ch larwm neu beidio ar eich car neu yn bwriadu gosod un ar hen gar yna mae’n werth edrych os yw’r car yn cyrraedd y safon ofynnol gan Wefan Troseddau Moduron y Llywodraeth.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru