Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Arian Parod a Sieciau Teithio

Cyngor Gan Y Swyddfa Dramor a Gwladwriaeth.
Cyngor ar dollfeydd (customs) ar gyfer pob gwlad yn y byd gyda canllawiau diogelwch.

Cyngor HM Ar Dollau Tramor a Chartref.
Cyngor ar ba nwyddau y gall trafeilwyr ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

Cyngor HM Ar Dollau Tramor a Chartref.

Canllawiau poced ar gyfer trafeilwyr sydd yn teithio i mewn i’r Deyrnas Unedig o Ewrop.

Cyngor y CITES
‘The Convention on International Trade in Endangered Species of Wild Fauna and Flora’.

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Arian Parod a Sieciau Teithio

Arian Parod

Peidiwch â mynd a swm enfawr o arian gyda chi ar eich gwyliau. Os yw eich arian yn cael ei ddwyn oddi arnoch yna mae wedi mynd am byth. Mae ffyrdd eraill mwy diogel i’w gael i drin arian, darllenwch ymlaen.

Un o’r opsiynau mwyaf diogel yw defnyddio sieciau trafaelio. Gallwch brynu'r rhain o unrhyw fanc neu weithredwyr teithio o flaen llaw cyn dechrau ar eich gwyliau. Gallwch gyfnewid y rhain am arian parod mewn unrhyw fanc tramor, ambell i westy neu 'bureau de change'. Rydych yn arwyddo’r sieciau trafaelio pan yn eu prynu ac eto wedyn wrth eu cyfnewid am arian parod. Dylech gadw cofnod o rif cyfresol ar wahân i’r sieciau trafaelio fel mesur diogelwch ychwanegol. Os ydynt yn cael eu dwyn yna gallwch reportio’r golled gan nodi’r rhifau cyfresol er mwyn cael rhai newydd - golygai hyn na fyddwch yn colli eich arian. Hefyd dylech adael nodiadau o rifau cysylltu gyda rhywun adref rhag ofn fod y banc neu rywun angen cysylltu gyda chi. Nid yw pawb yn hoffi sieciau trafaelio oherwydd rydych yn colli allan ar y gyfradd cyfnewid. Mae hyn yn wir ond efallai bod yn well colli ychydig o bunnoedd na cholli’r cyfan i leidr. Opsiwn arall yw mynd a cherdyn credyd gyda chi ar eich gwyliau, mae’n safio cario arian i bob man ac ni fyddwch yn colli gymaint ar y cyfraddau cyfnewid. Os ydych yn dewis defnyddio cerdyn credyd neu sieciau trafaelio rhydych yn siŵr o gael ychydig o arian parod sydd yn mynd i fod yn ddeniadol i’r lleidr, felly gwnewch yn siŵr na ydych yn gadael eich cardiau credyd, sieciau trafaelio, bagiau neu arian parod o fewn cyrraedd lladron hyd yn oed ar y traeth neu yn y gwesty, ychydig o eiliadau maent angen.

  • Cadwch nhw’n ddiogel mewn poced neu mewn belt arian a pheidiwch byth a’u cadw mewn bag cefn neu siwtces.

  • Byddwch yn ymwybodol o’ch amgylchedd, edrychwch allan am bigwyr bocedi - maent o hyd yn edrych allan am deithwyr i’w targedu.

  • Gwnewch yn siŵr fod ganddo’ch rhifau ffôn argyfwng o fewn cyrraedd, gan gynnwys yr heddlu lleol fel boch chi yn gallu reprotio eich sefyllfa i’r heddlu mor fuan â phosib.
Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru