Chi a'ch Teulu
|
Eich Cartref
|
|---|---|
Eich Cerbyd
|
Mynd i Ffwrdd
|
Lladrad Cardiau Credyd |
![]() |
Mae dros £300 miliwn yn cael ei wario pob blwyddyn ar gardiau credyd sydd wedi cael eu dwyn. Yn ychwanegol i ddwyn y cardiau, mae'r hyn sydd yn cael ei alw yn ‘skimming’ yn gwneud hi yn fwy o reswm i gadw gofal o’ch cardiau credyd. |
|---|
Mae ‘skimming’ yn digwydd pan mae rhywun yn copïo'r strip magnetig ar eich cerdyn drwy ei roi eich cerdyn drwy beiriant darllenwr cardiau bach. Gall hyn ddigwydd mewn siopau, bwytai neu rhywle y byddwch yn talu gyda cherdyn. Wedyn bydd manylion eich cerdyn yn cael ei ddefnyddio i wneud cerdyn ffug. Gwarchodwch eich cerdyn a pheidiwch â’i adael allan o’ch golwg pryd mae trosglwyddiad yn cael ei wneud, hefyd peidiwch â thaflu eich derbynneb yn ddifeddwl oherwydd mae manylion ar y darn o bapur yma y gall lleidr ei ddefnyddio i archebu rhywbeth dros y ffôn neu oddi ar y rhyngrwyd. Edrychwch ar eich datganiad banc mor aml â phosib, os oes rhywbeth wedi cael ei brynu na ydach yn gwybod am dano, cysylltwch â darparwyr y cerdyn credyd mor fuan â phosib. Arwyddwch eich cardiau newydd yn syth ar ôl iddynt gyrraedd a gwnewch yn siŵr fod hen gardiau wedi cael eu torri i fynnu yn ddarnau man. Peidiwch â chadw eich llyfr siec gydag eich cardiau a gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ôl eich holl eiddo personol yn briodol. Cysylltwch â’ch darparwyr cardiau mor fuan â phosib os ydych yn colli eich cardiau, mae rhif argyfwng 24 awr i gael ar eich datganiad. Dyma esboniad beth i wneud os yw eich cerdyn yn cael ei ddwyn, gan Mark Bowerman o APACS (Association for Payment Clearing Services) sydd yn rheoli'r rhwydwaith sy’n yn galluogi banciau i drosglwyddo arian ar ran y cwsmeriaid. Mark Bowerman of the Association for Payment Clearing Services (APACS), which manages the main networks allowing UK banks and building societies to exchange payments on behalf of customers, explained what to do if your card is stolen: 'If someone else uses your card before you tell your card issuer it has been lost or stolen the most you will have to pay, in theory, is £50. The same applies if you warn them that someone else knows your PIN. ‘Yn ymarferol, bydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu yn ad-dalu’r arian a gollwyd yn ôl i’ch cyfrif yn llawn, ond os oedd perchennog y cerdyn yn ddiofal, er enghraifft cadw eich rhif PIN gyda’r cerdyn yna bydd yn gorfod wynebu ei golled i gyd. Os yw eich cerdyn wedi cael ei ddefnyddio mewn twyll a chithau yn dal hefo’r cerdyn, yna ni fyddwch yn gorfod talu am y golled’ |


