Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Drysau a Chloeon

Asiantaeth y Prif Gof Cloeau / Master Locksmiths Association
Mae MLA yn cynnig cymorth dwy edrych am y gof cloeau agosaf yn eich ardal.

Gwefan Lleihau Troseddau'r Swyddfa Gartref.
Cyngor ar sut i atal troseddau gan y Swyddfa Gartref.

Neighbourhood Watch

Gwarchod y Gymdogaeth Cymdeithas Gwladol Gwarchod y Gymdogaeth.

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Drysau a Chloeon

locks

Nid yw drysau arferol yn cynnig llawer o ddiogelwch yn erbyn lleidr brwdfrydig, hyd yn oed os yw’r drws wedi cael ei gloi. Felly gallwch fod mewn perygl o fyrgleriaeth, yn enwedig os yw’r drws yn cynnwys gwydr, gall gael ei falu yn hawdd gan y lleidr i’w helpu i mewn i’r tŷ.

Mae drysau allanol yn fwy diogel pan maent wedi cael eu gosod gyda ‘llwyrglo mortice pum-lifer’ (‘five-lever mortice deadlock'). Gallwch brynu'r cloeon yma mewn siopau DIY. Os am brynu, gwnewch yn siŵr fod yna nod barcud Safon Brydeinig wedi cael ei stampio ar y darn sydd yn mynd i mewn i ffrâm y drws.

mortice

Mewn rhai achosion, hwyrach ni fydd eich drws allanol yn ddigon trwchus i osod llwyrglo mortice pum lifer, dylai’r drws fod o leiaf 44mm o drwch. Os nad yw ddigon trwchus yna edrychwch am ‘lwyrglo ymylau diogelwch uchel’ ('high security rim deadlock') sydd hefyd yn cario nod Safon Brydeinig BS3621

Mae’n rhaid i golfachau (hinges) drws fod yn gadarn oherwydd bod yn hawdd i ladron eu symud neu eu malu. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi eu gosod gyda sgriwiau hirion, hefyd am ddiogelwch ychwanegol gosodwch foltiau colfachau (hinge bolts) i gryfhau'r drws yn erbyn ymosodiad.

Boltiau colfachau Drws Wedi EI Gryfhau

 

Am ddiogelwch ychwanegol yn eich cartref, dilynwch ein cyngor, efallai fe wneith eich arbed rhag bod yn ddioddefwr byrgleriaeth:

Diogelwch Pob Drws

Os nad yw eich drws ffrynt a’ch drws cefn yn ddiogel, yna nid yw eich cartref chwaith. Mae dau o bob tri byrgler yn dod i mewn drwy ddrws.

Os ydych yn gosod drws newydd, manteisiwch ar y cyfle i wella eich diogelwch trwy osod drws a thystysgrif Brydeinig PAS 24-1 ‘Doors of Enhanced Security’.

Gofynnwch am osod cadwyn neu far arno, a thwll sbecian os nad oes ffenestr neu ffordd arall o edrych i weld pwy sydd wrth y drws.

Mae paneli gwydr ar ddrysau neu o’u hamgylch yn arbennig o agored i niwed, felly gosodwch wydr laminedig yn eu lle. Neu gallwch brynu ffilm arbennig i’w lynu ar y tu mewn a fydd yn gwneud yr un peth.

Gwnewch yn siŵr fod y drysau a’r fframiau yn gryf ac mewn cyflwr da. Dylai drysau pren fod yn soled ac o leiaf 44mm (13/4”) o drwch.

Gosodwch gloeon mortais pum-lifer (nod barcud BS3621) ar bob drws allan, gan gynnwys drysau Ffrengig. A gwnewch yn siŵr eich bod yn eu defnyddio.

Gallwch gryfhau drysau pren trwy osod stribyn a phlatiau dur ar ffrâm y drws ac o gwmpas y clo.

Clowch y drysau hyd yn oed pan fyddwch gartref. Defnyddiwch y clo mortais neu, ar ddrysau PVC-U neu ddrysau eraill a diogelwch uwch, y modd llwyr gloi neu gloi dwbl, yn arbennig yn ystod y nos.

Gosodwch folltau mortais ar dop a gwaelod pob drws allan, gan gynnwys y ddwy ochr i ffenestri Ffrengig.

Cofiwch osod sgriwiau neu folltau cryf ar bob dyfais diogelwch.

Cyn gosod cloeon ar ddrysau PVC-U neu fetel, holwch y sawl a’u gosododd i wneud yn siŵr na fydd hyn yn effeithio ar y warant.


Amddiffynnwch Eich Cartref

  1. Twll Sbecian
    Os nad oes gennych ffenestr yn y drws neu ryw ffordd arall o edrych i weld pwy sy’n galw, gosodwch dwll sbecian.
    Edrychwch drwy hwn i adnabod pobl sy’n galw cyn agor y drws.

  2. Colynnau
    Gwnewch yn siŵr fod colynnau drysau yn gadarn a sgriwiau hir, cryfion yn eu dal yn eu lle. Gosodwch folltau colyn er mwyn diogelwch ychwanegol. Mae’r rhain yn rhad i’w prynu ac yn helpu i atgyfnerthu ochr colyn y drws. Mae bolltau colyn neu golynnau diogelwch yn arbennig o bwysig os yw drws yn agor ar i mewn.

  3. Bocsys Llythyrau
    Peidiwch byth a hongian allwedd sbâr tu mewn i’r bocs llythyrau. Dyma le amlwg y bydd lleidr yn siŵr o edrych. Dylai bocsys llythyrau fod o leiaf 400mm (16 medfedd) oddi wrth unrhyw gloeon. Ystyriwch osod cawell dal llythyrau neu gyfyngiad arall, sy’n rhwystro lladron rhag rhoi eu dwylo drwy’r blwch llythyrau a cheisio agor y cliciedi o’r tu mewn.

  4. Clicied Ymyl
    Mae clicied ymyl ar y rhan fwyaf o ddrysau ffrynt, sy’n cloi yn awtomatig wrth i’r drws gael ei gau. Gallwch agor y rhain o’r tu mewn heb allwedd. Chwiliwch am gynnyrch a’r nod barcut BS3621 er mwyn cryfder ac ansawdd. Dylech ystyried gosod y canlynol er mwyn diogelwch ychwanegol.

  5. Llwyrglo Awtomatig
    Mae hwn yn cloi’n awtomatig wrth i’r drws gael ei gau ac yn fwy diogel na mathau eraill o glicied ymyl. Rhaid cael allwedd i’w agor o’r tu mewn a’r tu allan hefyd.

  6. Cadwyni a Thyllau Sbecian
    Prynwch far neu gadwyn drws a thwll sbecian. Defnyddiwch nhw bob tro mae rhywun yn galw. Ons cofiwch mai dim ond wrth ateb y drws y dylid defnyddio cadwyn neu far drws - peidiwch â’i adael ymlaen drwy’r amser.

  7. Llwyrglo Mortais
    Gosodwch lwyrglo mortais pum-lifer tua un than o dair o’r ffordd i fyny’r drws. Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant yn fodlon ag un a nod barcut Safon Brydeinig BS3621. Rhaid cael allwedd i agor llwyrglo, ac felly fydd lleidr ddim yn gallu chwalu’r panel wydr cyfagos i agor y drws o’r tu mewn. Ac os bydd byrgleriaid yn dod i mewn i’ch cartref drwy ffenestr, ni fyddant yn gallu cario eich eiddo allan drwy’r drws, os oes llwyrglo arno.

Drysau Patio Sy’n Llithro

Dylid gosod dyfeisiadau atal-codi ar ddrysau patio sy’n llithro, a gosod cloeon ar y top a’r gwaelod i’w hatal rhag cael eu tynnu o’r tu allan, oni bai fod system aml-gloi arnynt yn barod. Mynnwch gyngor arbenigol. Os ydych yn cael drysau patio newydd neu’n adnewyddu rhai, gofynnwch i’r sawl sy’n cyflenwi’r system am eu manylion mesurau diogelwch.

Allweddi
Peidiwch byth a gadael allwedd sbâr mewn cuddfan gyfleus megis o dan fat y drws, mewn pot blodau neu du ôl i fricsen rydd - mae lladron yn gwybod am yr holl guddfannau arferol.

Os byddwch yn symud i gartref newydd, newidiwch y cloeon drws ar y drws ffrynt a’r drws cefn yn syth - efallai bod gan bobl eraill allweddi sy’n ffitio. Edrychwch yn eich llyfr ffôn am ofaint cloeon lleol sy’n aelodau o Gymdeithas y Pen Ofaint Cloeon.

Peidiwch byth a gadael allweddi eich cartref neu eich car mewn drws neu’n agos at y drws neu ffenestr. Mae storiâu am rai lladron yn defnyddio gwialen bysgota neu fagnet ar damaid o bren i’w dwyn drwy flychau llythyrau.

Penderfynwch ar le diogel i’ch allweddi a’i ddefnyddio pob amser, fel y gallwch ddod o hyd iddynt mewn argyfwng.

Fwy a mwy, mae byrgleriaid yn torri i mewn i ddwyn allweddi ceir gwerthfawr. Felly cymerwch ofal o’ch allweddi, ac os oes gennych garej, cadwch eich car yno yn hytrach nag ar y dreif.

Os Ydych Yn Byw Mewn Fflat
Yn aml, nid yw drysau fflatiau unigol mor gryf â drysau tai a dyna’r ffordd hawsaf i leidr dorri i mewn.

Dylid gosod mecanweithiau cloi yn unol â BS5588 Rhan 1:1990 ‘Fire Precautions in the Design and Construction and Use of Buildings’ ar ddrysau fflatiau a lefel llawr o 4.5 metr (fel arfer y rhai hynny ar yr ail lawr neu’n uwch).

Mynedfeydd Sy’n Cael eu Rhannu
Ystyriwch osod system mynediad-ffôn wrth brif ddrws eich adeilad. Peidiwch byth a defnyddio’r ‘seiniwr’ i agor y drws i ddieithriaid na dal y drws yn agored i rywun sy’n cyrraedd wrth i chi adael neu fynd i mewn i’r adeilad.


Byrgleriaeth Trwy Dynnu Sylw

Bydd rhai byrgleriaid yn ceisio mynd i mewn trwy dwyll. Gallent ddweud eu bod yn gweithio i’r cwmni dwr, nwy neu drydan neu’r cyngor lleol. Neu fe allent ofyn am ddiod o ddŵr, gofyn am gael golchi ei dwylo neu honni eu bod wedi colli anifail anwes. Mewn gwirionedd, byddant yn fodlon defnyddio unrhyw stori i fynd i mewn. Gallent fod yn ifanc (yn blant, hyd yn oed) neu’n hen, yn ddynion neu’n ferched, a gallant fod yn gweithio ar eu pen eu hunain neu mewn timau. Byddant yn targedu’r henoed yn aml.

Cofiwch

Gloi – clowch eich drysau a ffenestri, hyd yn oed pan fyddwch gartref.

Aros - ydych chi’n disgwyl rhywun - a oes ganddynt apwyntiad? Gwnewch yn siŵr fod y drws cefn wedi ei gloi - bydd rhai lladron yn gweithio mewn parau ac un yn sleifio i mewn drwy’r cefn tra byddwch chi wrth y drws ffrynt.

Cadwyn – rhowch y bar neu’r gadwyn ar y drws cyn ei agor.

Gwirio - gwiriwch pwy ydynt yn ofalus. Gofynnwch am gerdyn adnabod. Caewch y drws a gwirio trwy ddefnyddio rhif ffôn o’r llyfr ffôn neu fil perthnasol, nid y rhif ar y cerdyn.

Os ydych yn amheus, cadwch nhw allan, yn arbennig os ydych ar eich pen eich hun. Gofynnwch iddynt wneud apwyntiad neu alw’n ôl nes ymlaen pan fydd rhywun o gwmpas. Fydd galwyr diffuant ddim dicach. Os ydych yn amheus, rhowch wybod i’r heddlu am y digwyddiad. Gallech helpu i’w hatal rhag bwrglera rhywun arall.

Am ddiogelwch ychwanegol yn eich cartref, dilynwch ein cyngor, efallai fe wneith eich arbed rhag bod yn ddioddefwr byrgleriaeth:

(source - Home Office)

Top
 

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru