Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Cyngor i'r Henoed

Helpu’r Henoed
Gwasanaethau diogelwch y cartref i helpu’r henoed i fyw yn annibynnol.

‘Age Concern’
Cyngor ar atal troseddau i’r henoed.

Cymorth i Dioddefwyr
Cymorth i ddioddefwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan droseddau.

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Cyngor i'r Henoed

Yr henoed

Nid oes gan yr henoed fwy o siawns i gael eu targedu gan droseddwyr na unrhyw un arall yn y gymdeithas. Ond nid yw hyn yn golygu eich bod chi neu eich teulu yn teimlo yn ddiogel rhag troseddwyr.

Os ydych yn berson oedrannus ag yn ofni cael eich targedu gan droseddwyr yna dylech ddilyn yr un cyngor ar atal troseddau ac unrhyw un arall. Cymerwch ofal pan rydych yn mynd o gwmpas, darllenwch ein cyngor ar gerdded a thrafnidiaeth cyhoeddus.

Cadwch eich eiddo yn ddiogel gan ddiogelu eich cartref. Dilynwch ein cyngor ar ddrysau a chloeon a ffenestri. Efallai bod yn syniad cysylltu gyda’r adran dai i weld os oes arian ar gael gan eich cyngor lleol ar gyfer gwella diogelwch yn eich cartref

Edrychwch ar ein hadran ‘Eich cartref’, yn enwedig y pennawd marcio eiddo. Peidiwch â chadw swm mawr o arian yn eich tŷ, ewch ag nhw i’r banc neu gymdeithas adeiladu, maent yn llawer mwy diogel yno.

Gwnewch ymdrech i adnabod eich cymdogion, ag adnabod eu ffordd o fyw fel bod pethau anarferol yn denu eich sylw neu sylw eich cymdogion. Os gewch chi gyfle, ymunwch a chynllun Gwarchod y Gymdogaeth. Peidiwch â gadael dieithriaid i mewn i’ch cartref, gosodwch gadwyn diogelwch ar y drws a gwydr bach yn y drws i’ch galluogi i weld pwy sydd wrth y drws, cewch fwy o wybodaeth am hyn ar ei hadran ar ymwelwyr ffug.

Mae llawer o sefydliadau sydd yn cynnig cymorth a gwybodaeth ar gael megis Helpu’r Henoed a ‘Age Concern’. Os ydych erioed yn ddigon anffodus i gael eich effeithio gan drosedd ag yn edrych am gymorth yna ffoniwch ‘Cymorth i Dioddefwyr’ ar 0845 3030900.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru