Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Nwyddau Trydanol

Neighbourhood Watch

Gwarchod y Gymdogaeth Cymdeithas Gwladol Gwarchod y Gymdogaeth.

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Nwyddau Trydanol

Nwyddau Trydanol

Mae nwyddau trydanol megis peiriannau fideos, cyfrifiaduron a chwaraewyr DVD yn bethau mae lladron yn eu ffeindio yn hawdd i’w dwyn. Dilynwch ein cyngor defnyddiol er mwyn lleihau’r siawns o golli eich teledu i ladron.

Am oddeutu £1 gallwch brynu beiro uwch fioled i ysgrifennu eich cod post ar eich eiddo megis eich teledu. Mae bron yn amhosib gweld gyda llygaid noeth ond gall yr heddlu ddarllen yr ysgrifen gyda golau arbennig.

Un o’r pethau fedrwch wneud i atal y math yma o droseddau yw gwrthod prynu nwyddau rhad sydd yn cael eu cynnig yn y dafarn leol, siopau ail law, sêl cist car ac yn y blaen, mae yna siawns da eu bod wedi cael eu dwyn. Byddwch yn wyliadwrus a chadwch lygaid yn agored am nwyddau sydd wedi cael eu marcio, os ydych yn amau rhywun o fod yn delio mewn nwyddau sydd wedi cael eu dwyn yna cysylltwch ar heddlu. Os na ydych eisiau delio yn uniongyrchol ar heddlu yna cysylltwch â Taclo’r Taclau/Crimestoppers yn ddi-enw ar 0800 555 111.

Os na ydych eisiau eich eiddo gael eu gwerthu yn rhad yn y dafarn leol yna mae llawer o bethau y medrwch wneud i’w amddiffyn.

Trïwch atal bobl i edrych i mewn i’ch cartref oherwydd peth gwirion iawn yw hysbysebu eich eiddo’r cyhoedd. Tynnwch y llenni at ei gilydd yn y nos ond nid yn ystod y dydd am y rheswm fod llenni yng nghau yn gwneud i bobl feddwl nad oes neb gartref. Mae cael llenni delltog (blinds) yn ddefnyddiol oherwydd eu bod yn gadael golau i mewn i’r ystafell ac yn atal i bobl weld i mewn o’r tu allan.

Hefyd meddyliwch am brynu dyfeisiadau megis ‘platiau cloi’ i osod eich cyfrifiadur yn sownd i’r wal, llawr neu ddesg gan ddefnyddio plât neu gebl diogelwch. Cofiwch I gadw ffeiliau pwysig yn ddiogel drwy wneud copïau wrth gefn (backup) o’ch data yn eithaf aml. Mae’n ddigon drwg i rywun ddwyn eich cyfrifiadur heb son am golli'r wybodaeth i gyd sydd arno. Gallwch brynu platiau cloi i’ch teledu, peiriant fideo neu chwaraewr DVD ond pan mae’n dod i amser glanhau efallai bydd yn anodd glanhau rownd y peiriannau. Hwyrach fod y platiau cloi yma ond yn rhoi'r peiriannau yn sownd i’r cabinet ond o leiaf y byddant yn ddigon i gadw rhai lladron rhag gwastraffu eu hamser yn eu tynnu oddi yno.

Mae rhai brandiau o nwyddau trydanol gyda dyfeisiadau diogelwch oddi fewn iddynt, megis peiriant fideo gyda rhif PIN ynddo i rwystro eraill rhag ei ddefnyddio. Felly siopwch o gwmpas cyn gwneud eich dewis. Edrychwch pa ddyfeisiadau eraill sydd ar werth yn eich siopau DIY neu siopau cyfrifiadurol lleol a pheidiwch ag anghofio ei fod yn hanfodol i chi roi marc adnabod ar nwyddau trydanol newydd.

Os yw’r opsiynau yma yn swnio ychydig bach yn rhu ddrud yna cofiwch am y beiro uwch fioled. Ysgrifennwch eich cod post ag ati ar y nwyddau gyda’r feiro, dim ond £1 ydynt. Gallwch ffeindio allan mwy am farcio eiddo drwy ddewis y cyswllt/linc yma.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru