Chi a'ch Teulu
|
Eich Cartref
|
|---|---|
Eich Cerbyd
|
Mynd i Ffwrdd
|
Ysgythriad Diogelwch |
Efallai nad yw perchnogion hen geir yn sylweddoli y gall ysgythru rhif VIN neu rhif cofrestru y car ar y ffenestri atal lladron. Darllenwch yn mlaen am fwy o wybodaeth… |
|---|
VIN yw’r rhif unigryw 17 digit sydd yn gwahaniaethu pob car oddi wrth ei gilydd. Mae lladron ceir yn deall fod rhaid cael gwared â’r rhif sydd wedi cael ei ysgythru ar y ffenestr os am werthu’r car ymlaen. Gall rhif VIN neu rif cofrestru'r car sydd wedi cael ei ysgythru ar y ffenestr fod hefyd yn ddefnyddiol i adnabod os yw darnau’r car yn paru gyda'i gilydd ag i roi cymorth i’r heddlu i ffeindio perchennog cyfreithlon y car. Mae y rhan fwyaf o geir newydd gyda’r rhif VIN wedi cael ei farcio ar y ffenestr yn barod, gallant ddefnyddio’r rhif yma i baru ‘r ffenest i ffrâm y car. Nid oes rhaid i berchnogion hen geir golli allan. Mae llawer o gwmnïau ar draws y Deyrnas Unedig sydd yn gwerthu ffenestri ceir yn cynnal sesiynau ysgythru rhad ac am ddim. Hefyd mae rhai heddluoedd yn cynnig diwrnodau agored i wneud yr un math o beth.
|

