Chi a'ch Teulu
|
Eich Cartref
|
|---|---|
Eich Cerbyd
|
Mynd i Ffwrdd
|
Lladrad Fferm |
|
![]() |
|
Mae cyfalaf ffarmwr wedi ei wasgaru dros nifer o aceri mewn ffurf stoc neu offer. Mae llawer o’r offer yn gludadwy (portable), felly maent yn hawdd i’w dwyn. Mae mynediad hawdd i ffermydd yn gwneud mesurau diogelwch llwyr yn erbyn lladron yn amhosib - ond mae llawer y gallwch i’w wneud i leihau'r siawns o fyrgleriaeth. Ni fydd y mesurau yma yn mynd i dorri’r banc! |
|
|---|---|
|
|
|
Mae cynllyn ‘Farmwatch’ yn annog pawb yn y gymuned ffarmio i fod yn wyliadwrus, a gadael i’r heddlu wybod am unrhyw beth amheus. Mae hefyd yn eu hannog i gasglu gwybodaeth - gan ei ddefnyddio i helpu’r heddlu. Amcanion Pennaf ‘Farmwatch’ yw:
Mae cynllun ‘Farmwatch’ yn gweithredu mewn nifer o ardaloedd. Gall eich swyddog atal troseddau lleol eich cynghori. Mae anifeiliaid sydd yn pori yn darged hawdd i ladron. Edrychwch ar y stoc yn ddyddiol os yn bosibl i weld os yw popeth yn iawn. Cadwch eich gwrychoedd, ffensiau a llidiardau mewn cyflwr da. Dylai llidiardau gael capiau ar y colfachau/cetyn, fel nad yw’n bosib dwyn y llidiart yn rhwydd. Cymerwch fantais o ffosydd gan eu bod yn rhwystr naturiol. Dylai gridiau gwartheg fod yn symudadwy ac wedi eu cloi allan o’u safle arferol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Defnyddiwch bostyn sy’n cloi i rwystro agoriadau llydan (rhwystro cerbydau fynd drwodd). Ystyriwch ddefnyddio camerâu cylch cyfyng (CCTV), gallwch edrych ar eich anifeiliaid yn sgubor, siediau neu fuarthau o foethusrwydd eich cartref. Bydd yn ddefnyddiol iawn ar adegau prysur megis y tymor wyna ac yn y blaen. Os yw eich anifeiliaid yn cael ei dwyn yna cofiwch roi disgrifiad manwl ohonynt i’r heddlu. Mae tagiau clustiau a chyrn yn help i adnabod anifeiliaid. Os gallwch roi post cod ar yr anifeiliaid, yna bydd o gymorth i’r heddlu. Cymerwch luniau o anifeiliaid gwerthfawr. Ceisiwch ddiogelu eich cerbydau drwy ddefnyddio dyfeisiadau llonyddu (immobiliser) pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Os yn bosib, symudwch beiriannau o gaeau, yn enwedig os ydynt wrth ymyl ffyrdd. Adnabod eich eiddo drwy:
Cadwch eich offer pob amser o dan glo. Peidiwch â’u gadael o gwmpas y lle. Cadwch eitemau ag offer gwerthfawr megis llif gadwyn, offer weldio, darnau peiriannau ac yn y blaen o dan glo tu ôl i ddrws cryf. Neu rhowch yr eitemau mewn cawell fetel tu mewn i’r adeilad. Defnyddiwch gloeau safon Brydeinig, bariau o safon dda a ‘high security padlocks’. Gall ffenestri gael i’w diogelu gyda bariau metal. Clowch bob un adeilad allanol os na ydych yn eu defnyddio. Nid yw lladron yn hoffi mannau wedi eu goleuo, felly gosodwch oleuadau awtomatig y tu allan fel bod y golau yn dod ymlaen os oes rhywun yn symud. Ystyriwch osod larwm fyrgleriaeth neu gamerâu cylch cyfyng er mwyn eich rhybuddio o rywbeth amheus. Gall tai ffarm ddenu lladron oherwydd maent yn aml yn fawr ac mewn mannau anghysbell. Gosodwch gloeau llwyrglo (deadlocks) safon Brydeinig ar bob drws allanol, wedi cael eu cryfhau gyda blotiau cryf, rhai’n gweithredu gydag allwedd yw’r gorau. Gosodwch gloeon ar eich ffenestri gwaelod a phibellau draen. Dylai eich prif ddrws fod gyda chadwyn diogelwch arno yn ogystal â gwydr bach unffordd i weld pwy sydd wrth y drws. Mae larwm byrgleriaeth yn ddefnyddiol ond mae’n aml yn ddull olaf o amddiffyniad. Fel arfer mae’n eich rhybuddio pan mae rhywun wedi torri mewn i’ch cartref eisoes (braidd yn rhy hwyr). Eich blaenoriaeth gyntaf yw rhwystro byrgleriaeth yn y lle cyntaf. Cadwch unrhyw fath o ddrylliau o dan glo gan gadw’r bwledi/cetris ac yn y blaen ar wahân. Os oes arian parod neu emwaith yn y tŷ yna rhowch nhw mewn diogell (safe). Cadwch gofnod o’ch eiddo gwerthfawr. Os yn bosib, marciwch eich eiddo gan roi eich cod post arnynt yn ogystal â rhif y tŷ neu enw’r tŷ. Cymerwch luniau o’ch eiddo gwerthfawr - gyda phren mesur i ddangos graddfa. Peidiwch â hysbysebu nad ydych adref drwy adael nodiadau i fasnachwyr adael parseli yn y garej. Os yw eich tŷ yn mynd i fod yn wag am gyfnod, yna gofynnwch i gymydog neu eich ‘Farmwatch’ lleol i gadw llygaid ar eich fferm. Byddwch yn barod i wneud yr un peth iddynt hwy hefyd! Nid Yw’n Costio Dim I Fod Yn Wyliadwrus Keep up to date on the current crime trends in your area. A good way to do this is to join your local Farmwatch. Your local police crime prevention officer can advise you. Encourage your employees to be security conscious, and look out for strange vans or cars – registration number may give police a vital lead. Cadwch eich hun wedi eich diweddaru o’r mathau o droseddau sydd yn mynd ymlaen yn eich ardal. Ffordd dda o wneud hyn yw ymuno gyda ‘Farmwatch’ lleol. Gall eich swyddog atal troseddau lleol eich cynghori ymhellach. Anogwch eich gweithwyr i fod yn ymwybodol o droseddau, ac i edrych allan ar geir neu faniau amheus - gall rhif cofrestru roi arweiniad hanfodol i’r heddlu. Mae'n bwysig iawn cael yswiriant priodol. Mae’n talu cael yswiriant llawn yn erbyn lladrad cerbydau, offer, anifeiliaid ac yn y blaen, yn ogystal â chynnwys eich cartref ag adeiladau eraill. Mae cyngor gan gwmnïau yswiriant yn rhad ac am ddim - os yw am yr yswiriant ei hun neu am ffyrdd o wneud eich ffarm yn fwy diogel. | |



