Chi a'ch Teulu
|
Eich Cartref
|
|---|---|
Eich Cerbyd
|
Mynd i Ffwrdd
|
Llety Gwyliau |
![]() |
Lle bynnag yr ewch ar eich gwyliau mae’n gysur gwybod fod y llety yr ydych yn aros ynddo yn ddiogel, hynny yw eich bod chi a’ch eiddo yn ddiogel. Darllenwch ymlaen am fwy o wybodaeth. |
|---|
Yn anffodus ni chawn ddewis ein hystafelloedd bob tro, ond os ydych yn teimlo yn anghysurus yn eich ystafell yna peidiwch â bod ofn gofyn am symud i ystafell arall, hyd yn oed os yw yn golygu symud gwesty. Mae ystafelloedd ar y lloriau uchaf yn fwy diogel na rhai ar y gwaelod oherwydd eu bod yn anodd i ladron dorri i mewn o’r tu allan a hefyd mae’n anoddach iddynt ddianc. Mae ystafelloedd sydd yn reit bell o ddiangfeydd tan hefyd yn fwy diogel nag ystafelloedd sydd reit wrth ymyl grisiau tan, er bod rhywun yn teimlo yn fwy hyderus o ddianc mewn amser os oes dihangfa ger llaw. Fel eich cartref, dylai drysau a chloeau ystafell y gwesty fod yn gadarn a chryf. Dylech fedru cloi'r drws o’r ochor mewn gan atal y drws agor o’r o’ch allan, oni bai fod gan rywun arall allwedd. Dylai pob drws gael gwydr bach ynddo i weld pwy sydd ochor draw yn ogystal â chadwyn i ddiogelu’r drws. Os ydych yn amau rhywun sydd yn honni ei fod yn staff ac yn ceisio dod i mewn i’ch ystafell yna ffoniwch y groesawfa i gadarnhau. Edrychwch am arwyddion o ymgeision blaenorol o dorri fewn i’r ystafell megis marciau ar y drws, rownd y cloeau ag ar y ffenestri. Gwnewch yn siŵr fod y ffenestri a drysau wedi eu diogelu, yn enwedig os ydych yn aros ar y llawr isaf neu os oes ganddo’ch balconi hawdd i rywun ddringo i mewn iddo. Os oes diogell (safe) yn yr ystafell yna defnyddiwch o i gadw eitemau gwerthfawr dan glo. Diogellau gyda chod cyfunol arnynt yw’r rhai gorau. Peidiwch â gadael pethau gwerthfawr o gwmpas yr ystafell y gall godi temtasiwn ar staff y gwesty, os na’r ydych yn siŵr yna cerwch a hwynt gyda chi. Pan yr ydych yn gadael yr ystafell trowch y teledu ymlaen ag yn ddigon uchel i bobl ei glywed o du allan yr ystafell ond dim digon uchel i amharu ar y gwesteion eraill. Hefyd gallwch adael y golau arnodd a rhoi’r arwydd 'Do not disturb' ar y drws i roi'r argraff fod rhywun yn yr ystafell. Bydd gadel y golau arnodd yn gwneud i chi deimlo yn fwy diogel pan rydych yn dychwelyd i’r ystafell wedi nos. Byddwch yn ymwybodol fod gan berchnogion y gwesty ychydig o gyfrifioldeb i wneud yn siŵr fod eich ystafell yn ddiogel. Ond yn y Deyrnas Unedig o dan ‘Act Hotel Proprietors 1956’ - os yw’r perchennog yn dangos arwydd clir am y rheolau gallant gyfyngu eu cyfrifioldeb i £50 yr eitem neu gyfanswm o £100. Ni all y perchnogion ddibynnu ar y rheolau yma os oedd y golled wedi ei achosi gan esgeulustod eu staff, ond bydd rhaid i chi brofi’r esgeulustod i hawlio mwy o bres. Os ydych yn mynd i gampio, mwy na thebyg y byddwch yn defnyddio eich car i gadw eitemau gwerthfawr - edrychwch ar ein adran am Eich Cerbyd. |


