Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Diwylliant Lleol

Gwefan y 'Foreign and Commonwealth office'.
Cyngor swyddogol gan y llywodraeth ar ddiogelwch rownd y byd.

BBC watchdog
Canllaw i ddewis yr yswiriant trafaelio gorau.

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Diwylliant Lleol

Diwylliant Lleol

Gall diwylliant ac ymddygiad pobl mewn gwlad dramor edrych yn rhyfedd, weithiau yn ddychrynllyd hyd yn oed, ond er mwyn mwynhau eich gwyliau ag i osgoi gwrthdaro mae’n bwysig dod i ddeall diwylliannau eraill a’u parchu.

Mae'r ffordd rydych yn gwisgo yn bwysig ond mae y rhan fwyaf o wledydd wedi arfer gyda thwristiaid. Lle bynnag yr ydych mai’n well peidio cynhyrfu'r trigolion lleol drwy gerdded drwy’r strydoedd mewn par o drowsus byr neu ficini oni bai eich bod yn gwybod fod pawb yn eu derbyn. Gall cynhyrfu'r trigolion lleol arwain at wylltineb a hyd yn oed ymosodiad.

Mae bwyd yn faes arall a all achosi problem. Mae llawer o wledydd, yn enwedig rhai yn y Dwyrain Pell yn mwynhau gwahanol fath o ddulliau coginio. Er engraifft maent yn bwyta cig yr ydym ni yn ystyried I fod yn amhriodol neu yn ffiaidd. Pan yn ymweld a gwledydd o’r fath mae’n bwysig I gofio mai chi yw’r gwestai a fod y tregolion yn bwy eu bywydau fel arfer.

Mae hefyd gwahaniaeth mewn ystumiau ac iaith y corff mewn rhai gwledydd. Nid yw codi bawd yn Saudi Arabia yn ffordd o fod yn gyfeillgar, mae’n golygu rhywbeth tebyg i rywun yn codi dau fys yn y wlad yma! Roedd pwyntio at rywun yn y Deyrnas Unedig ers talwm yn cael ei gymryd fel rhywbeth anfoesgar iawn, mae’r gred hyn yn dal i fodoli mewn rhai gwledydd, yn enwedig wrth ddefnyddio’r mynegfys (index finger). Gall pethau fod yn ffwndrus iawn os ydych yn nodio eich pen ar rywun yng Ngroeg, Twrci neu Bwlgaria oherwydd i rai mae’n golygu Na.

Oeddech chi yn gwybod?

  • Ym Marbados, mae’n anghyfreithlon i rywun gan gynnwys plant i wisgo dillad cuddliw (camouflage).

  • Yn Fiji ar Maldifs mae ymdrochi yn noeth wedi ei wahardd.

  • Yn Japan mae cyfraith llym yn erbyn cyffuriau ‘anti-stimulant’, sydd yn gwahardd y defnydd o nifer o fewnanadlydd a thabledi y gallwch brynu dros y cownter yn y wlad yma.

  • Yn Saudi Arabia mae yn erbyn y gyfraith i ferchid i yrru car

  • Yn Thailand gallwch ddiweddu mewn carchar am 15 mlynedd am sarhau'r Teulu Brenhinol

Peth pwysig arall yw dysgu ychydig bach o iaith y wlad yr ydych yn ymweld, hyd yn oed brawddegau bach o lyfr. Mae dangos eich bod wedi gwneud ychydig bach o ymdrech yn mynd ymhell os am wneud ffrindiau dros dŵr. Meddyliwch sut fysech yn teimlo petai rhywun o wlad tramor yn pwyntio a gweiddi atoch mewn iaith nad ydych yn ei ddeall. Pryn bynnag wlad y byddwch yn ymweld bydd y rhan fwyaf o bobl yn gyfeillgar a chroesawgar ond iddynt gael yr arwyddion cywir.

Gwnewch ychydig bach o waith ymchwil cyn mynd tramor, dysgwch ychydig o’r iaith a mwynhewch y diwylliant pan gyrhaeddwch chi, os na fedrwch drafaelio heb godi helynt yna, peidiwch â mynd.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru