Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Deddfau Lleol

Gwefan y 'Foreign and Commonwealth office'.
Cyngor swyddogol gan y llywodraeth ar ddiogelwch rownd y byd.

BBC watchdog
Canllaw i ddewis yr yswiriant trafaelio gorau.

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Deddfau Lleol

laws

Oeddech chi yn gwybod, yn Fflorida mae'n erbyn y gyfraith i wisgo dillad nofio wrth ganu mewn manau cyhoeddus, hefyd yn Alabama mae yn erbyn y gyfraith i chware dominos ar ddydd Sul. Y pwynt yw, gwnewch eich gwaith cartref cyn mynd i wlad dramor, dewch yn gyfarwydd â rheolau’r wlad cyn i chi gyrraedd yno.

Peidiwch â meddwl mai dim ond America sydd gyda deddfau gwirion. Yn yr Eidal mae’n drosedd i beidio cael gwen ar eich wyneb tra yn y ddinas Milan, oni bai eich bod yn ymweld â’r ysbyty neu yn mynychu angladd.

Yn ddigon teg, mae’n rhaid cymryd rhai o’r deddfau yma gyda phinsied mawr o halen, ond mae’r neges digon pwysig. Mae gan wledydd eraill ddeddfau gwahanol i’n hunain, a phan rydym yn ymweld â gwlad dramor dylem barchu eu deddfau, er pa mor bitw ydynt.

Fel rhan o ymgyrch ‘Gwybod cyn i chi fynd’ ('Know before you go') gan y swyddfa dramor, maent wedi gwneud rhestr o’r deddfau sydd werth eu nodi. Mae’r rhestr yn cynnwys:

  • Mewn rhai gwledydd mae defnyddio camera neu ysbienddrych ger arsefydliad milwrol a llywodraethol wedi ei wahardd. Gall y gosb gynnwys carchar.

  • Yn Singapore mae ysmygu mewn adeiladau cyhoeddus, taflu neu boeri gwm cnoi ar drafnidiaeth gyhoeddus a pheidio fflysio’r toiled yn droseddau dinesig, gall ddiweddu mewn dirwy.

  • Mae ymdrochi yn noeth yn drosedd yn India hyd yn oed mewn canolfannau gwyliau megis Goa. Hefyd mae torheulo heb dop yn erbyn y gyfraith ar y rhan fwyaf o draethau yn Fflorida.

  • Mae yn erbyn y gyfraith i regi neu dynnu ystumiau sarhaus yn gyhoeddus mewn gwledydd megis Bahrain, UAE a Kenya. Os cewch eich dal, gallwch dderbyn dirwy lem iawn.

  • Yng Nghenedl Unedig Yr Arabiaid mae’n drosedd i fwyta, yfed neu ysmygu yn gyhoeddus yn ystod y ‘Ramadan’ o godiad yr haul tan ei fachlud.

  • Am ymdrochi mewn ffynnon yn yr Eidal cewch ffein go ddrud

Gwnewch ychydig o waith ymchwil cyn mynd i unrhyw wlad tramor. Mae y rhan fwyaf o ganllawiau gwyliau yn cynnwys gwybodaeth am ddeddfau lleol, gall y rhyngrwyd fod yn defnyddio dros ben ond i chi ymweld ar wefannau cywir. Trïwch wefannau gwybodaeth i dwristiaeth yn gyntaf, hefyd cerwch i adran ‘Country Advice’ ar wefan y Swyddfa Dramor.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru