Chi a'ch Teulu
|
Eich Cartref
|
|---|---|
Eich Cerbyd
|
Mynd i Ffwrdd
|
Ffonau Symudol |
![]() |
Mae plant sydd mewn oedran ysgol yn fwy tebygol i ddioddef lladrad ffonau symudol i gymharu ag oedolion. Beth sydd yn fwy torcalonnus yw bod y lladrad yn gallu cynnwys bygythiad ymosodol neu hyd yn oed trais corfforol. |
|---|
Edrychwch beth sydd yn digwydd os teipiwch chi *#06# i mewn i’ch ffôn symudol. Dylai rhif IMEI (Rhif Cyfresol / Serial No) gael ei arddangos ar sgrin eich ffôn - cymerwch nodyn ohono, oherwydd os yw eich ffôn symudol yn cael ei ddwyn yna gall eich darparwyr gwasanaeth wahardd y defnydd o’ch ffon symudol. Er hynny, mae llawer o ffyrdd i atal eich ffôn gael ei ddwyn. I ddechrau, mae o gwmpas chwarter o ladrad ffonau symudol yn digwydd pan mae yn cael ei ddefnyddio neu yn cael ei weld gan eraill. Mae’r ffigyrau yn uwch mewn canol trefi, felly os ydych mewn lle prysur, dylech fod yn wyliadwrus iawn. Dywedodd Heddlu Metropolitan Llundain ‘y dylech drin eich ffôn symudol fel pe bae genych £100 yn eich llaw!’ Oeddech chi yn gwybod?
|


