Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Cymhareb Diogelwch Cerbydau Newydd

Rhaglen Asesu Cerbydau Newydd Ewropeaidd
Gwybodaeth ar ddiogelwch ceir.

Cymhareb Diogelwch Cerbydau Newydd
Cymharu diogelwch ceir newydd.

Thatcham
Cynnal ymchwiliadau diogelwch ar gyfer cwmnïau yswiriant.

Vehicle Systems Installation Board
Mae’r VSIB yn gosod safon ar broffesiwn gosod systemau ceir.

Gwefan Troseddau Moduron Y Llywodraeth.
Pa mor ddiogel yw eich car? Profwch eich gwneuthurwyr a’r model yma.

Cyfraith Gwregys Diogelwch (PDF 500kb)
Seat Belt Law
Cyfraith Newydd Gwregys Diogelwch

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Cymhareb Diogelwch Cerbydau Newydd

car

Mae eich dewis wrth brynu car yn cael ei ddylanwadu gan nifer o ffactorau megis ei bris, cynllun, diogelwch, cynildeb neu unrhyw nodweddion arbennig arall. Mae diogelwch yn ffactor bwysig iawn y dyddiau yma yn y broses o brynu car, ac mae llawer o systemau defnyddiol y gall eich helpu yn eich penderfyniad.

Wedi cael eu hysbrydoli gan yr NCSP Ewropeaidd (system pwyntiau ar ddiogelwch ceir), mae diwydiant yswiriant y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno system cymharu ceir eu hunain, sef Cymhareb Diogelwch Cerbydau Newydd (New Car Security Rating NCSR).

Yn hytrach na chael un sgôr, mae'r NCSR wedi cyflwyno dwy system gymharu. Mae un yn dangos pa mor dda mae’r car yn sefyll i fynnu yn erbyn ymasiadau o gael ei ddwyn, ar llall yn dangos gwrthiant y car rhag i rywun dorri mewn iddo a dwyn eich eiddo. Mae’r ceir yn cael eu marcio allan o bump gyda un seren yn farc sâl iawn a pum seren yn farc ardderchog. Mae’r system gymharu yma yn ddefnyddiol oherwydd mae’n dangos fod rhai ceir yn anodd eu dwyn ond eto yn reit hawdd i ddwyn eiddo ohonynt neu i’r gwrthwyneb.

Mae’r ceir yn cael eu profi gan dim arbenigwyr o ‘Motor Insurance Repair Research Centre’ (MIRRC)’ yn Thatcham. Wedyn maent yn darparu’r wybodaeth ar fesur diogelwch yn erbyn lladrad y ceir a brofwyd yn gyhoeddus.

Mae’r profwyr yn awyddus i bwysleisio na’r ffactor fwyaf mewn diogelwch rhag lladrad yw'r ‘cyfle a rowch i ladron’, hynny yw os oes ganddo’ch eiddo gwerthfawr ar ddangos i’r cyhoedd yn y car, dim ots faint o nodweddion diogelwch sydd ganddo’ch yn y car, bydd yn denu sylw’r lladron.

Defnyddiwch gymhareb y NCSR i ’ch helpu i wneud y penderfyniad cywir. Mae’r rhestr ar y we ac yn cael ei diweddaru yn aml.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru