Chi a'ch Teulu
|
Eich Cartref
|
|---|---|
Eich Cerbyd
|
Mynd i Ffwrdd
|
Tollau / 'Customs' |
![]() |
Mae gan bob gwlad ddeddfau llym i reoli beth y cewch gario i mewn neu allan o’r wlad. Mae’n bwysig eich bod yn deall y rheolau yma oherwydd gall camgymeriadau arwain at gosbau llym. |
|---|
Peidiwch byth a chario cyffuriau. Yn ôl y swyddfa dramor mae dros 3,000 o ddinasyddion y Deyrnas Unedig wedi cael eu carcharu mewn gwlad dramor ar hyn o bryd, gyda dros druan o’r rhain wedi cael eu carcharu am droseddau yn ymwneud a chyffuriau. Mae Thailand, Singapore a Thwrci yn rhai o’r gwledydd y gallwch gael eich dienyddio am ddelio mewn cyffuriau, ond gall gwledydd nes am adref eich dedfrydu i gosbau llym hefyd. Mae Groeg a Chyprus wedi dedfrydu rhai pobl i oes mewn carchar, hefyd mae Sbaen wedi carcharu rhai pobl am 12 mlynedd am gario cyffuriau trwy dollau’r wlad. Ar wahân i gyffuriau mae llawer o nwyddau eraill gyda chyfyngiad arnynt neu wedi cael eu gwahardd i mewn i’r Deyrnas Unedig. Enghreifftiau o nwyddau sydd wedi cael eu gwahardd yw ‘knuckledusters’, cyllyll fflicio, ‘death-stars’, pibellau chwythu ac offer arall sydd yn ymwneud a ‘martial arts’. Mae y rhan fwyaf o ddeunydd pornograffig wedi cael eu gwahardd, yn enwedig os oes pethau yn cynnwys lluniau plant ifanc. Byddwch yn ofalus hefyd gyda nwyddau dynwaredol (pirated goods) megis CDs, dillad ac yn y blaen. Nwyddau cyfyngedig yw eitemau sydd angen trwyddedau arbennig i’w mewnforio megis gynau, ffrwydron, anifeiliaid anwes gan gynnwys adar. Mae cynllun pasport i anifeiliaid anwes i’w gael, (Pet Passport Scheme) sydd yn galluogi cŵn a chathod gael eu mewnforio o’r Undeb Ewropeaidd a rhai gwledydd eraill heb yr angen o’u cwaranteiddio, cyn belled fod rhai amodau yn cael eu cyrraedd. Mae deddfau hefyd ar gyfer rhywogaethau sydd mewn perygl, yn cynnwys adar a phlanhigion (mae'r rhain yn cynnwys eitemau megis ffwr, ifori, croen a chwrel). Yn ychwanegol mae cig, ffowliau a’u hisgynhyrchion gan gynnwys bacwn, ham, selsig, pate, wyau, llaeth a hufen yn erbyn y gyfraith i’w mewnforio. Er hynny, fe’ch caniateir i fewnforio 1kg o gig wedi ei goginio o wlad sydd ddim yn yr Undeb Ewropeaidd, cyn belled ei fod mewn cynhwysydd aerglos. Byddwch yn ymwybodol fod rhai planhigion, gan gynnwys coed, llwyn, tatws, rhai ffrwythau, bylbiau a hadau wedi cael eu gwahardd. Mae hefyd yn erbyn y gyfraith i fewnforio trawsyryddion megis radio CB i’r Deyrnas Unedig. Mae gwefan Tollau Tramor a Chartref yn cynnwys mwy o wybodaeth ddefnyddiol, gyda rhestr o rifau ffôn i’w ffonio os ydych angen mwy o wybodaeth. Cofiwch fod gwledydd eraill y gwahardd nwyddau i mewn i’w gwlad hefyd, felly os nad ydych yn siŵr, cysylltwch gyda llysgenhadaeth (embassy) y wlad yr ydych yn trafaelio iddo. Yn olaf mae yna gyfyngiad ar sylweddau cyfreithlon y cewch ddod i mewn i’r wlad megis alcohol a thybaco a nwyddau eraill a brynwyd o dramor. Os ewch y tu hwnt i’r cyfyngiad yma bydd rhaid i chi dalu TAW. Ni fyddwch yn talu TAW ar nwyddau sylweddol sydd wedi cael eu prynu o wledydd y UE, cyn belled eu bod yn cael eu defnyddio ganddo’ chi eich hun, hyny yw eich bod ddim yn mynd i’w gwerthu ymlaen. Mae gan y Tollau Tramor a Chartref restr ar eu gwefan yn dangos beth yw’r cyfyngiad o’r nwyddau sylweddol y cewch eu mewnforio o’r UE neu o du allan i’r UE. Pan rydych yn dod yn ôl i’r Deyrnas Unedig bydd yn rhaid i chi fynd drwy un o dair sianel. Defnyddiwch y sianel goch os oes ganddo’ch rhywbeth i’w ddatgan (dros eich cyfyngiad gyda TAW i’w dalu), y sianel wyrdd os nad oes ganddo’ch rhywbeth i’w ddatgan neu'r sianel las os nad oes ganddo’ch rhywbeth i’w ddatgan ond yn dychwelyd o wlad y tu allan i’r UE.
|


