Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Edrych Ar Ôl Eich Pasport

Cyngor Y Swyddfa Dramor a Gwladwriaeth.
Cyngor ar dollfeydd (customs) ar gyfer pob gwlad yn y byd gyda canllawiau diogelwch.

Cyngor HM Ar Dollau Tramor a Chartref.
Cyngor ar ba nwyddau y gall trafeilwyr ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

Cyngor HM Ar Dollau Tramor a Chartref.

Canllawiau poced ar gyfer trafeilwyr sydd yn teithio i mewn i’r Deyrnas Unedig o Ewrop.

Cyngor y CITES
‘The Convention on International Trade in Endangered Species of Wild Fauna and Flora’.

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Edrych Ar Ôl Eich Pasport

passport

Mae eich pasport yn cadarnhau eich bod yn ddinaswr Prydeinig ac yn ffordd o’ch adnabod gan yr awdurdodau wrth fynd dramor. Mae eich pasport yn cadarnhau eich hunaniaeth a’r wlad yr ydych yn byw ynddo - mae hyn yn ei wneud yn eiddo gwerthfawr dros ben.

Bydd rhai lladron yn ceisio dwyn eich pasport a'i ddefnyddio i wneud pasport ffug gan alluogi rhywun o wlad arall i drafaelio fel dinasyddion Prydeinig. Gallant ei ddefnyddio hefyd i gyflawni lladrad hunaniaeth (identity theft) - pan fydd rhywun yn cogio bod yn rhywun arall i gyflawni twyll cardiau credyd neu i droi sieciau trafaelio yn arian parod. Mae lladrad hunaniaeth yn broblem sydd yn cynyddu ar draws y byd.

Edrychwch ar eich pasport i weld os yw yn ddilys. Mae’r Llywodraeth yn awgrymu y dylai eich pasport fod yn ddilys am oeliaf chwe mis ar ôl dychwelyd o wlad dramor. Os ydych angen ei adnewyddu, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud gyda digon o amser o flaen llaw eich gwyliau. Er bod gwasanaeth arferol yn cymryd pythefnos i brosesu eich pasport newydd, gall gymryd yn hirach ar adegau prysur.

Gwnewch ddau gopi o’ch pasport cyn eich gwyliau. Gadwech un gyda ffrind neu berthynas a cherwch ar llall gyda chi, gan gadw'r copi ar wahân i’r gwreiddiol. Gall cario cerdyn adnabod arall fod yn ddefnyddiol rhag ofn colli eich pasport - eto cadewch y cerdyn adnabod ar wahân i’r pasport.

Cadwch eich pasport gyda chi tra yn trafaelio i ben eich taith. Cadwch o yn eich bag llaw neu mewn poced. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod ble mae ei pasport bob amser, er mwyn ei ddangos yn brydlon pan fo rhaid.

Meddyliwch yn ofalus ble yr ydych yn cadw eich pasport ar ôl cyrraedd. Mae llawer o beryglon o gwmpas os ydych yn ei gario i bobman, yn ogystal â’i guddio yn ystafell eich gwesty. Mae gan y rhan fwyaf o westai lefydd arbennig i gadw eich pasport megis diogell, holwch yn y dderbynfa ar ôl cyrraedd.

Byddwch yn wyliadwrus os oes rhywun yn gofyn am eich pasport. Efallai bydd rhai swyddogion tramor a Gwestai yn gofyn am weld eich pasport, gofynnwch i’r gweithredwr trafaelio neu'r Consyliaeth Brydeinig I weld os yw hyn yn drefn arferol neu beidio. Byddwch yn ofalus wrth drosglwyddo eich pasport i wasanaethau megis rhentu ceir neu feics, os ydych yn eu hamau gofynnwch iddynt a yw yn iawn dangos math arall o ddull adnabod.

Os byddwch erioed mor anffodus a cholli eich pasport i leidr neu yn ddamweiniol yna riportiwch y golled i’r heddlu lleol. Cysylltwch ar Consyliaeth Brydeinig neu’r llysgenhadaeth agosaf, gallant eich helpu yn bellach. Os oes rhaid gall y Consyliaeth Brydeinig roi pasport dros dro i chi.

Er bod yr y Deyrnas Unedig yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd byddwch yn dal angen pasport deng mlynedd ddilys er mwyn trafaelio i wledydd eraill yn y UE. Mae nifer o wledydd sydd yn rhan o’r UE wedi rhoi gorau i’r arferiad o ofyn am weld eich pasport wrth fynd i mewn i’w gwlad. Er hyn maent yn disgwyl i drafaelwyr fedru dangos cadarnhad o’u hunaniaeth pan fod angen sef pasport i Brydeinwyr. Wrth ddychwelyd i Brydain bydd yr adran mewnfudo yn edrych ar eich pasport.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru