Chi a'ch Teulu
|
Eich Cartref
|
|---|---|
Eich Cerbyd
|
Mynd i Ffwrdd
|
Gwybodaeth Personol |
![]() |
Phishing - Gwyliwch nad oes neb yn eich twyllo chi Mae’r ymddangosiad o ladrad hunaniaeth (identity theft) yn gwneud amddiffyn manylion personol yn bwysig iawn. Dyma rai camau y gallwch gymryd i amddiffyn eich manylion personol. |
|---|
Os ydych yn taflu eich biliau neu dderbynebau cardiau credyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu rhwygo yn fan lle bod pobl eraill yn medru darllen eich manylion. Mae lladrad hunaniaeth yn broblem sydd yn cynyddu, ond gall cymryd camau syml leihau’r eich siawns o fod yn darged. Gall lladron ddefnyddio’r manylion lleiaf i gadarnhau eu bod yn rhywun nad ydynt, ar ffordd fwyaf cyffredin o ddarganfod manylion personol yw drwy fynd drwy finiau ysbwriel. Mae hyn yn rhyfeddol o gyffredin mewn ardaloedd cyfoethog ac mae’n lledaenu allan o’r trefi i’r wlad; gyda 75% o awdurdodau lleol yn cyfaddef fod hyn yn digwydd yn rheolaidd yn eu hardal. Cafwyd gweithred ei gynnal gan gymorth Cyngor Tref Nottingham a Heddlu Nottinghamshire, yn mynd drwy gynnwys cannoedd o finiau i weld beth oedd pobl yn ei luchio i ffwrdd. Ffeindiwyd fod 86% o ysbwriel yn y cartref yn dangos gwybodaeth a oedd yn ddefnyddiol i ladron. Roedd tri chwarter o’r biniau yn cynnwys enw llawn a chyfeiriad oeliaf un person a oedd yn byw yn y tŷ, tra bod 20% o’r biniau yn cynnwys rhifau cyfrif banc a rhifau didoli a oedd yn bosib cael eu cysylltu gyda’r enw a chyfeiriad y person a oedd yn byw yn y tŷ. Felly peidiwch a chadwch eich biliau, derbynebau ac unrhyw fanylion personol arall mewn lle amlwg, os gallwch, rhowch nhw dan glo. Os nad oes ganddo’ch rywle dan glo yna cadwch nhw mewn lle dirgel. Ystyriwch brynu peiriant rhwygo! Bydd lladron hunaniaeth yn ceisio eich twyllo fel eich bod yn roi manylion personol iddynt naill ai mewn person, dros y ffon neu gan ddefnyddio e-byst sydd yn edrych yn swyddogol. Mae cyfrifiadur personol yn gallu cadw digon o fanylion defnyddiol i dwyllwyr. Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw un sydd yn chwilio am ormodaeth o fanylion, peidiwch â bod ofn eu herio drwy ofyn ‘pam rydych angen y manylion yma?' - ni fydd holwr cyfreithlon yn meindio. Gwnewch yn siŵr ei bod yn cadw dogfenni pwysig megis tystysgrif geni, rhif yswiriant cenedlaethol ac ati mewn lle diogel. Dylai un rhywbeth sydd yn cynnwys manylion personol gael ei ddinistrio cyn ei roi yn y bin. Nid yw defnyddio peiriant rhwygo (shredder) yn mynd dros ben llestri. Os ydych yn amau eich bod wedi cael eich targedu gan leidr hunaniaeth yna cysylltwch ar heddlu, awdurdodau lleol neu eich banc mor fuan â phosib. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur yna cadwch eich manylion personol mewn ffeiliau sydd wedi cael eu hamgryptio. Mae amgryptio yn golygu fod cynnwys y ffeiliau wedi cael eu sgramblo, felly ni fydd rhywun arall yn gallu eu darllen oni bai fod ganddynt y cyfrinair. Mae nifer o feddalwedd rhad ac am ddim y gallwch eu lawr lwytho oddi ar y we er mwyn amgryptio eich ffeiliau. Ystyriwch gael meddalwedd ‘firewall’ i’ch cyfrifiadur er mwyn rhwystro ‘hackers’ ac ymyrwyr rhag cael mynediad i’ch gwybodaeth personol ar eich cyfrifiadur. |



