Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Eiddo Personol

Gwefan y BBC
Gwybodaeth am aros yn ddiogel ar y we yn ogystal â gwybodaeth personol.

Neighbourhood Watch
Gwarchod y Gymdogaeth Cymdeithas Gwladol Gwarchod y Gymdogaeth.

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Eiddo Personol

Eiddo Personol

Rydem mewn oes lle mae ein pocedi wedi eu llenwi gyda nwyddau hanfodol megis ffonau symudol, cardiau credyd, pyrsau a waledi. Felly darllenwch ein cyngor i’w cadw yn ddiogel.

Mae’n debyg ein bod yn cario mwy o eiddo personol gyda ni'r dyddiau yma

Arian parod, llyfr sieciau, cardiau credyd a ffonau symudol yw rhai o’r pethau yr ydym yn eu cario gyda ni pob dydd a byddant yn cael eu methu os byddant yn cael eu dwyn.

Mae’r eiddo yma i gyd yn ymddangos yn amhrisiadwy, ond yn ôl yr heddlu, y cyngor gorau i gadw eich eiddo yn ddiogel yw ‘cario be ydych chi angen yn unig gyda chi’.

Maent yn awgrymu i chi ddysgu isafu'r nifer o eiddo yr ydych yn cario gyda chi. Os na ydych angen camera gyda chi, peidiwch â’i gario, mae’r run peth yn mynd gydag arian parod a chardiau credyd, ceisiwch amcangyfrif faint o arian parod y byddwch angen a pheidiwch â chario eich holl gardiau credyd, dim ond y rhai y byddwch fwyaf tebygol o’u defnyddio.

Cadwch eich waled neu bwrs mewn rhywle y gallwch eu teimlo megis yn boced eich trowsus neu boced tu fewn i’ch siaced. Pocedi gyda botymau neu sip yw’r gorau. Edrychwch bob hyn a hyn i weld os yw eich waled neu bwrs yn dal ganddo’ch, ond peidiwch â gwneud hyn yn rhy amlwg oherwydd gall bigwr pocedi eich gweld yn gwneud hyn.

Yn yr un modd, cadwch eich ffôn symudol allan o’r golwg - mewn poced gyda sip yw’r ffordd orau. Os ydych yn cario bag gyda chi, strapiwch o ar draws eich brest a gafael yn dynn arno, ond ar y run amser ceisiwch beidio edrych yn rhy ofalus. Byddwch yn ofalus gyda bagiau cefn oherwydd maent hawdd iawn i ladron fynd i mewn iddynt.

Peidiwch â gadael eich bagiau heb oruchwyliaeth mewn lle cyhoeddus megis, caffi siop neu dafarn. Os ydych mewn siop esgidiau yn trio esgid newydd ar eich traed er enghraifft, peidiwch â cherdded yn bell oddi wrth eich bagiau, gofynnwch i un o staff y siop i edrych ar eu holau.

Ceisiwch ymddangos wedi ymlacio, ond yr un amser yn ymwybodol o’ch amgylchedd. Mae pigwyr pocedi yn hoffi strydoedd prysur gyda thyrfa o bobl, os oes rhywun yn taro i mewn i chi gall fod yn bigwr pocedi. Os yw hyn yn digwydd i chi, edrychwch i weld os yw popeth gyda chi heb fod yn rhy amlwg.

Os oes rhywbeth wedi cael ei ddwyn, cerwch at yr orsaf heddlu agosaf i’w reportio neu ffonio nhw. Peidiwch â deialu 999 oni bai eich bod wedi dal y lleidr yn y weithred, ac eich bod wedi llwyddo i’w cadw neu eu cloi mewn ystafell. Meddyliwch yn ofalus cyn rhedeg ar ôl lleidr neu geisio eu dal. Efallai bod gwerth yr hyn a gaeth ei ddwyn yn fach iawn i gymharu â chanlyniad cael eich ymosod. Rhowch ddiogelwch chi eich hun yn gyntaf.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru