Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Marcio Eiddo

Gwefan y BBC
Gwybodaeth am aros yn ddiogel ar y we yn ogystal â gwybodaeth personol.

Neighbourhood Watch
Gwarchod y Gymdogaeth Cymdeithas Gwladol Gwarchod y Gymdogaeth.

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Marcio Eiddo

Marcio Eiddo

Os oes un ffordd i wneud yn siŵr fod rhywbeth yn perthyn i chi, marcio eich enw arno yw hwnnw. Pam ddim cymryd un step yn bellach i amddiffyn eich eiddo yn eich cartref?

Marcio eich eiddo yw’r ffordd fwyaf syml ac effeithiol o amddiffyn eich eiddo rhag lladron. I ddechrau, mae marcio eiddo yn rhoi lladron i ffwrdd o ddwyn eich eiddo oherwydd mae’n gadael i gwsmeriaid posibl weld fod yr eiddo wedi cael ei ddwyn, felly bydd yn anodd gwerthu'r nwyddau ymlaen. Mantais arall yw, mae’n gwneud gwaith yr heddlu yn haws i ffeindio allan pwy sydd yn berchen eiddo sydd wedi cael ei ddwyn.

Mae’r Heddlu Metropolitan yn dweud fod yna ddau prif fathau o farcio eiddo. Mae’r cyntaf yn cael ei adnabod fel marcio parhaol, pan yr ydych yn ysgythru (engrave) neu pwnsho eich eiddo gyda eich enw ar cod post. Mae’n bosibl prynu pecynnau ysgythru rhad mewn rhan fwyaf o siopau DIY.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgythru gyda dril neu declyn addas, defnyddiwch batrymlun (template) neu stensil i gadw o yn daclus. Mae pwnsio eich eiddo yn ffordd barhaol o farcio sydd yn cael ei wneud gyda mwrthwl a phecyn pwnsio gyda rhifau a llythrennau arnynt. Mae’r dull yma yn iawn ar gyfer beiciau, peiriannau torri gwair, injans neu unrhyw wrthrych metel, ond peidiwch ai ddefnyddio ar alwminiwm oherwydd ei fod yn difrodi yn hawdd. Wrth gwrs, gallwch grafu eich cod post gyda gwrthrych miniog, mae’n dibynnu pa mor daclus yr ydych eisiau'r cod post wedi ei ysgythru ar eich eiddo.

Marcio Anweladwy
Marcio anweladwy yw’r ffordd arall o farcio eiddo. Mae’r dull yma yn well ar gyfer eiddo hynafol neu eiddo gwerthfawr a fydd yn colli eu gwerth drwy eu difetha gyda marcio parhaol. Mae’r heddlu fel arfer yn defnyddio lamp uwch fioled arbennig i edrych am farciau ar eiddo sydd wedi cael eu dwyn, felly defnyddiwch feiro uwch fioled i farcio eich eiddo. Yn union gyda’r marcio parhaol defnyddiwch eich cod post gan farcio eto os ydych yn symud tŷ. Cofiwch fod y uwch fioled yn pylu (fade) bob rhyw flwyddyn felly bydd angen marcio eich eiddo eto.

Mae y rhan fwyaf o orsafoedd heddlu yn rhedeg cynllun sydd yn gadael i chi fenthyg beiro uwch fioled, hefyd gellwch eu prynu yn y rhan fwyaf o siopau DIY. Mewn rhai achosion mae’n bosibl defnyddio cemegau i gael gwared â’r marciau anweledig, hefyd mae’n pylu ar ôl amser, felly cofiwch farcio eich eiddo yn rheolaidd.

Er na fedrwch weld y marciau gyda llygad noeth, mae marcio anweledig yn ataliol iawn rhag lladron, ond mae’n rhaid i chi adael nhw wybod am y marciau drwy ddefnyddio sticeri gan yr heddlu sydd yn dweud "property in this home has been marked / mae’r eiddo yn y cartref yma wedi cael ei farcio". Cysylltwch â’ch heddlu lleol am fwy o fanylion.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru