Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Cludiant Cyhoeddus

Traveline
Os ydych eisiau cynllunio siwrne gyda trafnidiaeth cyhoeddus gan ddefnyddio gwasanaethau rhanbarthol traveline, cliciwch yma

Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
Heddlu Trafnidiaeth Prydain yw heddlu cenedlaethol ar gyfer plismona rheilffyrdd drwy Gymru, Lloegr a’r Alban.

Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig - Rhifyn 2007 (PDF 900kb)
newsletter

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Cludiant Cyhoeddus

Cludiant Cyhoeddus

Heddlu Trafnidiaeth Cymru

Gall pobl deimlo yn agored i niwed wrth ddefnyddio cludiant cyhoeddus, yn enwedig os ydynt ar ben eu hunain yn hwyr yn y nos. Rydem eisiau gwneud i chi deimlo yn fwy diogel…

Mae cludiant cyhoeddus fel arfer yn ddiogel iawn ac mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau tacsi yn gwmnïau cyfrifol gyda thrwydded arbennig. Darllenwch ein cyngor er mwyn teimlo ychydig bach yn fwy diogel y tro nesaf yr ydych yn defnyddio bws, trên, tiwb neu dacsi.

Ar y bws
Defnyddiwch “Bus Stop” yr ydych yn gwybod sydd yn eithaf prysur ac wedi ei oleuo yn dda.

Dysgwch amseroedd y mae’r bws yn cyrraedd ac yn gadael a gadwech i rywun y pen arall y siwrnai wybod pa fws yr ydych yn bwriadu ei gymryd. Gallwch drefnu gael rhywun i gwrdd â chi'r pen arall i’r siwrnai.

Eisteddwch yn agos i’r deifar. Os oes rhywun yn dechrau sgwrs yna byddwch yn bleserus a hyderus, ond peidiwch â datgelu manylion personol megis lle ydych yn byw neu yn gweithio.

Ar drên.
Arhoswch am y trên mewn lle gyda digon o olau, yn agos at ddihangfa neu mewn lle ble mae yna ddigon o bobl eraill o gwmpas. Mae nifer o orsafoedd trên gyda chamerâu cylch cyfyng gyda staff sydd wedi cael eu hyfforddi i ddelio gydag argyfwng.

Ar ôl mynd i mewn i’r trên ceisiwch eistedd mewn rhan brysur a chadwch eich bagiau a’ch eiddo personol yn agos iawn atoch.

Os ydych yn teimlo yn anghyfforddus, newidiwch eich sedd neu hyd yn oed ystyriwch ddal y trên nesaf. Gwnewch hyn yn unig os orsaf yn brysur gyda staff yn gweithio yno.

Ffeindiwch allan ble mae’r botymau/llinynnau argyfwng wedi cael eu lleoli yn yr orsaf neu unrhyw safle i roi cymorth yn yr orsaf..

Cymryd tacsi
Cariwch rif ffôn cwmni tacsi yr ydych yn ei adnabod gyda chi, os ydych rhywbryd yn archebu tacsi, gofynnwch am enw’r deifar a’r math o gar mae o yn ei ddreifio.

Trïwch archebu’r tacsi i ddod a chi yn ôl i’ch cartref cyn mynd allan. Rhowch eich enw a pan fydd y gyrrwr yn cyrraedd, gwnewch yn siŵr fod y gyrrwr yn gwybod yr enw a archebodd y tacsi. Os ydych yn gorfod archebu tacsi mewn man cyhoeddus, gwnewch yn siŵr nad oes neb yn gwrando arnoch yn datgelu eich enw a’ch cyfeiriad i’r cwmni tacsi.

Os gallwch, rhannwch y tacsi gyda ffrind. Hefyd heliwch bethau at ei gilydd megis arian i dalu am y tacsi a goriad eich cartref er mwyn mynychu eich cartref mor fuan â phosib.

Os ydych yn teimlo yn annifyr mewn tacsi yna gofynnwch i’r gyrrwr i’ch gadael allan mewn man prysur yr ydych yn gwybod am dano yn dda.


Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru