Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Parcio'n Ddiogel

Cynllun Parcio'n Fwy Ddiogel (Safer Parking Scheme)
Chwiliwch am faes parcio diogel yn eich ardal.

‘Park Mark Times’
Taflen newyddion am gynlluniau parcio’n fwy diogel.
PARK MARK TIMES

Cyfraith Gwregys Diogelwch (PDF 500kb)
Seat Belt Law
Cyfraith Newydd Gwregys Diogelwch

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Parcio'n Ddiogel

car

Mae sut a ble yr ydych yn parcio eich car yn bwysig iawn, nid yn unig ar gyfer diogelwch eich car ond ar gyfer diogelwch chi eich hun. Mae ‘Secured Car Parks’ yn gwobrwyo meysydd parcio sydd yn cyrraedd safon diogelwch gan yr heddlu.

Ar gyfartaledd, mae meysydd parcio sydd wedi gosod mesurau diogelwch i gyrraedd y safon a ofynnir, megis mwy o olau a gwyliadwriaeth, wedi llwyddo i leihau troseddau ceir i 70%

Mae yna dros fil o feysydd pario diogel safonol yn y Deyrnas Unedig, i gyd gyda hawl arbennig i ddangos plac sydd yn dynodi fod y maes parcio yn cyrraedd y safon ofynnol. Edrychwch allan am y plac oherwydd ei fod yn arwydd o faes parcio diogel.

Os na allwch ddod o hyd i faes parcio diogel, yna er mwyn diogelwch chi eich hun, parciwch mewn man prysur gyda digon o olau os yw wedi nosi. Os yn bosib baciwch i mewn i’r man parcio er mwyn medru dianc yn gyflym os mewn argyfwng. Os yr ydych yn defnyddio maes parcio aml-lawr yna parciwch mewn man sydd yn agos at yr allanfa ag i ffwrdd o bileri os yn bosib.

Wrth ddychwelyd yn ôl i’ch car, gwnewch yn siŵr fod eich allweddi ganddo’ch wrth law, hefyd edrychwch yn sydyn ar y sedd gefn rhag ofn bod rhywun yn aros amdanoch. Parciwch mewn maes parcio o dan oruchwyliaeth CCTV gydag allanfa cyfunedig. Ystyriwch osod goleuadau diogelwch y tu allan i’ch cartref er mwyn goleuo'r man y rydych yn parcio ynddo.

Er mwyn diogelwch eich car a’i gynnwys, fe ddylech eto, barcio mewn maes parcio sydd wedi cael ei oleuo yn dda ac yn cyrraedd safon y ‘Secured Car Parks’ os yn bosib. Clowch y drysau a’r ffenestri i gyd a defnyddiwch unrhyw fesur diogelwch sydd ganddo’ch megis larwm neu ddyfais llonyddu. Cadwch eiddo gwerthfawr sydd yn eich car allan o olwg y cyhoedd, rhag ofn denu llygad lleidr.

Yn eich cartref defnyddiwch eich garej os oes ganddo’ch un. Os nad oes, gadewch eich car ar y ‘driveway’ neu mewn rhywle y gallwch chi neu eich cymdogion ei weld yn hawdd drwy’r ffenestr. Cyn defnyddio unrhyw adeilad megis garej neu sied i gadw eich car, genwch yn siŵr ei fod yn ddiogel yn gyntaf, hynny yw, ydi’r drysau a’r ffenestri wedi cloi?

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru