Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Diogelu Eich Ffenestri

Neighbourhood Watch
Gwarchod y Gymdogaeth Cymdeithas Gwladol Gwarchod y Gymdogaeth.

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Diogelu Eich Ffenestri

Ffenestri

Ffenestri

Yn ôl yr heddlu, ffenestri sydd yn cael eu defnyddio amlaf i fynychu tai gan ladron. Felly os ydych eisiau codi safon diogelwch o amgylch eich cartref yna edrychwch i weld os yw eich ffenestri yn gweithio yn iawn, hynny yw, pob un yn cau ac yn gyfan.

Os oes gan eich ffenestri fframiau pren, gwnewch yn siŵr eu bod yn gadarn ac yn rhydd o bydredd. Gwnewch yn siŵr fod paen y ffenestr wedi cael ei ddiogelu gyda gleinwaith (beading) sydd wedi cael eu gosod gyda sgriwiau diogelwch yn hytrach na phinnau a phwti. Dylai ffenestri gyda fframiau metal gael eu harchwilio yn yr un modd am rwd a
chliciedau rhydd.

Mae ffenestri modern PVCu yn dueddol i sefyll yn well yn erbyn dirywiad, ond mae ganddynt broblemau eu hunain gyda diogelwch. Y broblem fwyaf cyffredin yw gosodiad y gleinwaith (beading). Mae rhai ffenestri PVCu, yn enwedig yr hen rai, gyda’r gleinwaith (stribed hir sydd yn dal paen y ffenestr yn eu lle) ar yr ochr allan. Efallai bod hyn yn gwneud pethau’n haws i osod y ffenestr ond mae’n gwneud pethau’n haws i ladron dorri i mewn hefyd. Gall clipiau gwydro (glazing clips) a thapiau diogelwch helpu yma.

Mae profion wedi cael eu datblygu gan y Safon Brydeinig sydd yn rhoi cymorth i ddangos pa ffenestri sydd fwyaf uwchraddol. Mae PAS 011 yn profi'r holl system, gan gynnwys y colfachau ar gliciedau (ond nid y gwydr ei hun). Edrychwch am farc safon BS 7412 - PAS 011 ar gyfer fframiau ffenestri PVCu, BS 644 - PAS 011 ar gyfer rhai pren, BS 4873 ar gyfer rhai alwminiwm a BS 6510 ar gyfer rhai haearn. Os yw’r marciau yma i’w gweld, yna maent yn cyrraedd y safon Brydeinig.

Mae ffenestri gydag allwedd i’w cloi yn cynyddu diogelwch eich tŷ, felly gosodwch rhai os yw’n bosib. Mae nifer o gwmnïau yswiriant yn mynnu eich bod yn eu gosod - felly edrychwch ar eich polisi yn fanwl. Mae ffenestri PVCu yn tueddu i ddod gyda chloeon. Os nad ydynt, yna gall y cloeon gael eu gosod yn hwyrach, genwch yn siŵr eu bod yn cael eu gosod yn iawn rhag ofn i'r uned gael ei niweidio, yna gall brofi i fod job ddrud iawn.

Gyda’r gwydr ei hun, mae’n werth nodi fod ffenestri gwydr dwbl modern yn anodd ei malu, er nad yw yn amhosib i leidr penderfynol i falu nhw. Gwydr haenog (laminated glass) sydd yn cynnig yr amddiffyniad gorau. Os yw yn cael ei ddefnyddio'r ddwy ochr yna bydd y gwydr yn ddiogel iawn, ond bydd ei ddefnyddio ar yr ochr fewn yn unig yn ddigon da. Mae heddlu’r Canolbarth Orllewinol Lloegr yn awgrymu defnyddio gwydr haenog sydd oeliaf 6.4mm o drwch sydd yn cyfateb i ofynion PAS 011.

Un cyngor da i ddiogelu eich ffenestri yw gosod cysgodlenni (blinds). Maent yn rhwystro i rywun edrych i mewn i’ch cartref yn ystod y dydd, heb rwystro’r golau. Yn ogystal â hyn mae byrgleriaid yn eu casáu, oherwydd mae’n anodd mynd drwyddynt heb wneud sŵn.

Cloeon Ffenestri

Mae un o bob tri byrgler yn mynd i mewn drwy ffenestr

Os ydych chi’n adnewyddu ffenestri, manteisiwch ar y cyfle i osod rhai newydd a thystysgrif Safonau Prydeinig BS7950 ‘Windows of Enhanced Security’ ac ystyriwch ddefnyddio gwydr laminedig, yn arbenig ar ffenestri llawr gwaelod a rhai sy’n hawdd i’w cyrraedd, gan fod yn llawer mwy anodd ei dorri.

Fel arall, mae cloeon ffenestri sy’n hawdd eu gweld o’r tu allan yn gallu gwangalonni lladron, achos byddai’n rhaid i’r lleidr dorri’r gwydr a pheryglu tynnu sylw ato’i hun. A hyd yn oed os ydynt yn torri’r ffenestr, ni allant ei hagor, ac felly mae perygl iddynt dynnu gwaed wrth ddringo dros wydr toredig.

Mae siopau DIY a diogelwch cartref yn gwerthu cloeon rhesymol eu pris, sy’n gweithio gydag allwedd, ar gyfer y rhan fwyaf o ffenestri. Mae’n bosib y bydd arnoch angen mwy nag un clo ffenestr, yn dibynnu pa mor fawr yw’r agoriad rydych am ei ddiogelu.

Gosodwch gloeon ffenestri gydag allweddi ar bob ffenestr ar y llawr gwaelod a ffenestri sy’n hawdd i’w cyrraedd - er enghraifft, rhai uwchben to fflat neu biben law.

Mae angen cloeon ar ffenestri bychan fel ffenestri to neu ffenestri linter ystafell ymolchi hyd yn oed. Gall lleidr fynd trwy unrhyw flwch sy’n fwy na phen dynol.

Cofiwch gloi ffenestri, Tynnwch yr allweddi a’u cadw o’r golwg mewn lle diogel.

Mae ffenestri louver yn arbennig o agored i niwed achos gwaith hawdd i ladron yw tynnu’r estyll o’r ffrâm. Gludwch yr estyll i’w lle, a gosodwch glo louver pwrpasol. Gwell fyth gosod gwydr sefydlog yn eu lle.

cloeon
Top
 

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru