Chi a'ch Teulu
|
Eich Cartref
|
|---|---|
Eich Cerbyd
|
Mynd i Ffwrdd
|
Amddiffyn Eich Hunan |
![]() |
Mae y rhan fwyaf o bobl yn meddwl fod ‘amddiffyn eich hunan’ yn golygu cwffio yn ôl yn erbyn yr ymosodwr. Tydi o ddim, os ydych yn ddigon anffodus rhywbryd i gael rhywun yn ymosod arnoch, yna cymerwch ein cyngor ar ‘amddiffyn eich hunan’ i ystyriaeth. |
|---|
Gwnewch gymaint â gallwch i osgoi gwrthdaro - ‘disgwyliad ac osgoi’ ('anticipation and avoidance') yw’r geiriau i gofio. Os ydych wedi cael eich dal mewn sefyllfa, ceisiwch siarad gyda’r ymosodwr heb fod yn bryfoclyd. Ceisiwch edrych fel pe baech wedi ymlacio oherwydd gall edrych yn ofnus yn aml iawn arwain at ymosodiad. Cofiwch fod iaith y corff yn bwysig mewn sefyllfa ymosodol, felly cadwch bellter cyfforddus i ffwrdd o’r ymosodwr. Defnyddiwch larwm bersonol nwy neu drydanol. Mae'r rhain yn gwneud sŵn uchel iawn a fydd yn dychryn yr ymosodwr am ennyd ac yn rhoi digon o amser i chi osgoi. Cariwch y larwm mewn man y gallwch gael gafael arno’n gyflym - peidiwch â’i adael yn waelod eich bag. Os nad oes ganddo’ch larwm personol, yna gweiddwch mor uchel â phosib i ddenu sylw’r cyhoedd. Os yr ydych yn gallu gweiddi yn ddigon uchel gall fod mor effeithiol â larwm personol. Os oes ganddo’ch larwm bersonol, defnyddiwch o yn ogystal â gweiddi nerth eich pen. Gwnewch eich hun yn barod os oes perygl o gwmpas, gall cael pwl o banig eich rhwystro rhag meddwl, felly dysgwch sut i gadw rheolaeth o’ch hun mewn sefyllfa anodd/ymosodgar. Os oes rhaid cwffio yn ôl, yna mabwysiadwch y term sydd yn cael ei ddefnyddio gan yr heddlu sef ‘bash and dash’. Y prif dargedau yw'r llygaid, trwyn, ceg, clustiau, gwddf, groin, pengliniau neu’r grimog (shin) - dewisiwch ymosod ar yr un agosaf ar y pryd. Os oes rhywun yn gafael ynddo’ch o’r tu ôl, yna peidiwch â brwydro ymlaen, byddwch ond yn blino chi eich hun. Yn hytrach, lluchiwch eich hun yn ôl i roi syndod i’r ymosodwr neu ceisiwch stampio ei droed neu gicio ei goes. Mae ganddo'ch yr hawl i amddiffyn eich hunan gyda grym rhesymol, mae hyn yn cynnwys defnyddio eitemau sydd ganddo'ch ar y pryd megis ambarél, bag, bag dogfennau (briefcase) neu allweddi. Peidiwch â defnyddio be fysai’r gyfraith yn ei gymryd fel arf ymosodol. Un waith yr ydych wedi taro neu ddychryn yr ymosodwr, rhedwch i ffwrdd mor fuan â phosib. Os yr ydych wedi llwyddo i gael y gorau o’r ymosodwr gyda grym yna peidiwch ag ymosod eto, oherwydd byddwch yn rhoi eich hun mewn mwy o berygl neu gallwch ddiweddu yn cael eich cyhuddo o ymosodiad treisgar. Dim ond canllawiau amddiffyn eich hunan bras yw’r rhain, ond os ydych eisiau dysgu mwy, yna ffeindiwch ddosbarthiadau lleol sydd yn dysgu sut i ‘amddiffyn eich hunan’ a thrïwch annog eich teulu i ymuno a dosbarth hefyd. Cofiwch mai ‘disgwyliad ac osgoi’ yw’r dull gorau o amddiffyn eich hunan. |


