Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Siediau a Garejys

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Siediau a Garejys

shed

Mae lladrad offer garddio ar gynnydd. Peidiwch â gadel eiddo gwerthfawr mewn siediau neu garejys sydd heb gloeau arnynt neu heb ffenestri, drysau ac yn y blaen.

Gwnewch y siŵr fod eich sied mewn cyflwr da. Os ydych yn amau fod y sied yn frau a ddim yn debygol o sefyll yn gadarn yn erbyn ymosodiad gan ladron, yna peidiwch â gadael dim byd gwerthfawr yno, megis eich peiriant torri gwair neu feic.

Gosodwch gloeau gweddus ar ddrws eich sied. Dylai’r cloeau gael ei bolltio drwy’r drws gyda phlât haearn ar y cefn i gryfhau’r clo. Os ydych yn defnyddio ‘padlocks’ yna gwnewch yn siŵr eu bod oeliaf 6mm o drwch gyda haearn wedi cael ei galedu. Y math gefyn ceuedig (closed shackle) yw’r gorau, oherwydd nid yw’n bosib rhoi bariau haearn trwy’r gefyn i dorri’r clo. Dylai'r cloeon gael oeliaf pump o binnau ynddynt. Ystyriwch osod ‘mesh’ haearn dros y ffenestri, sydd wedi cael ei gryfhau gyda phlatiau haearn ar yr ochr mewnol. Dylai siediau gyda cholfachau (hinges) ar yr ochor allan gael sgriwiau diogelwch ynddynt i sicrhau nad oes neb yn medru eu tynnu allan.

Peidiwch â chredu fod eich garej yn fwy diogel na eich sied. Mae llawer o ddrysau a elwir yn ddrysau ‘up-and-over’ yn eithaf hawdd i’w agor, ond mae ychwanegu ‘padlock’ gyda hasb a stwffwl ar yr ochr mewn yn gwella safon y diogelwch. Ystyriwch ychwanegu clo mortice i ddrysau dwbl gyda chlicied ar yr ymylon.

Dewis arall i ddiogelu drws garej ‘up-and-over’ yw defnyddio amddiffynnwr clo (defender lock). Braich metel cryf yw hwn, sydd yn cael ei roi yn y concrit tu allan i’r garej gyda gefyn (shackle) arno i roi ‘padlock’. Mae hwn yn atal y drws rhag agor. Maent yn costio oddeutu £50, gallwch weld y manylion ar wefan Sold Secure yn waelod y dudalen.

Dewis arall i ddiogelu drws garej ‘up-and-over’ yw rhoi bolltia’u yn rhedwr y drws. Mae hyn yn syniad da os ydych ond yn defnyddio'r drysau mewnol i’r garej yn hytrach na’r prif ddrws allanol ei hun.

Os yw drws eich garej yn rhan o’r tŷ ei hun, yna sicrhewch fod unrhyw ddrysau sydd yn cysylltu gyda'r tŷ yn ddiogel (gweler drysau a chloeon). Os yw eich offer yn y garej megis offer garddio ac yn y blaen yn werthfawr, yna ystyriwch ddefnyddio dyfeisiadau diogelwch pwrpasol i’r swydd, er enghraifft gosod bolltau llygad (eyebolts) yn y concrit i rwymo offer gwerthfawr i’r llawr gyda chadwynau (chain). Mae nifer o ddyfeisiadau pwrpasol ar werth.

Ystyriwch osod cewyll diogelwch y tu mewn i siediau neu garejys gan gadw offer gwerthfawr yn y cewyll. Mae’n werth cloi offer megis ysgolion, offer sydd yn gallu helpu'r lleidr dorri i mewn i’r tŷ. Gwell yw peidio rhoi'r cyfle i ladron. Marciwch eich holl eiddo sydd yn y siediau a garejys gydag eich cod post (gweler marcio eiddo).

Yn olaf, gwnewch yn siŵr fod cynnwys y siediau a garejys yn dod o dan yswiriant y tŷ, cofiwch, os na ydych yn cloi eich siediau a garejys, ni fydd y cwmni yswiriant yn eich digolledu.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru