Chi a'ch Teulu
|
Eich Cartref
|
|---|---|
Eich Cerbyd
|
Mynd i Ffwrdd
|
Aros Yn Ddiogel Ar Y We (cyngor i rieni) |
![]() |
*Cyngor i Blant ar Aros yn Ddiogel Ar y We* Os ydych yn pori’r we yn aml, byddwch yn gwybod fod gan y we ei anfanteision. Ni ddylai’r anfanteision yma rwystro chi a’ch plant rhag mwynhau’r we, ond dylech gymryd rhagofal. |
|---|
Mae’r fenter “bod yn ddoeth ar y we” ("Wise up to the Net) gan y llywodraeth yn cynnig cyngor da ar gyfer rhieni sydd yn poeni am ddiogelwch ar we, gan gynnwys cyngor i bobl sydd ddim yn gyfarwydd ar we fyd-eang (World Wide Web). Mae’n darparu gwybodaeth ar ystyr jargon, megis y gwahaniaeth rhwng ‘IRC’ a ‘ISP’ ar gwahaniaeth rhwng ‘chatroom’ a ‘cybercafe’ - termau a fydd eich plant efallai yn siarad fel ail iaith! Darllenwch ymlaen am y ‘deg cyngor uchaf’ gan y fenter ar gyfer rhieni sydd yn pryderu am ddiogelwch a chynnwys y we.
Mae gosod eich cyfrifiadur yn yr ystafell fyw yn ddull o atal eich plant rhag camddefnyddio’r rhyngrwyd, oherwydd nid ydynt ar ben eu hunan a gallant fod o dan eich gwyliadwriaeth. Mae rhai rhieni yn ‘ysbïo’ ar eu plant i weld pa wefannau y maent wedi ymweld, gallwch hyd yn oed brynu meddalwedd arbennig i’ch helpu. Efallai bod y meddalwedd yn ddefnyddiol mewn rhai achosion ond cymerwch i ystyriaeth y gall ysbïo ar eich plant effeithio ar eich perthynas sydd ganddo’ch gyda’ch plant, byddant yn meddwl nad ydych yn ymddiried ynddynt. |




