Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Yswiriant Trafaelio

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Yswiriant Trafaelio

Yswiriant

Os ydych yn mynd ar wyliau dramor, neu hyd yn oed yn y Deyrnas Unedig, mae’n gofyn cael yswiriant trafaelio. Nid yw’n mynd i dorri’r banc.

Mae llawer o weithredwyr trafaelio yn mynnu fod rhaid i chi gael yswiriant trafaelio cyn iddynt werthu gwyliau i chi. Mae ganddynt hawl i wneud hyn, ond nid oes rhaid i chi brynu yswiriant ganddyn nhw, cyn belled fod yr yswiriant yn gymaradwy.

Ar wahân i sicrhau eich digolledu os oes eitemau yn cael eu dwyn tra eich bod ar wyliau, gan gynnwys arian parod, mae yswiriant trafaelio yn cynnig llawer o fanteision pwysig eraill. Mae polisïau fel arfer yn eich digolledu gyda threuliau meddygol - defnyddiol os ydych yn mynd yn sâl neu yn cael eich anafu. Mae rhaid i chi adael i’r cwmni yswiriant wybod am unrhyw gyflwr meddygol blaenorol. Mae’r polisïau yn tueddu i gynnig yswiriant sylfaenol ar ‘ddamwain personol’. Mae’r yswiriant yma yn eich digolledu mewn digwyddiad o golli eich golwg, torri coesau ac yn y blaen. Yswiriant pwysig arall yw yswiriant ‘diddymiad’ (cancellation cover). Mae’r yswiriant yma yn eich digolledu os oes rhywbeth yn eich rhwystro rhag mynd ar eich gwyliau megis anaf, salwch neu drychineb yn y cartref megis tan. Cofiwch ddarllen yr ysgrifen man.

Gwnewch yn siŵr fod eich yswiriant yn ddilys ar hyd eich gwyliau ac yn cynnwys yswiriant meddygol. Gwnewch lungopi o’ch polisi, gyda nodiadau o rifau ffôn argyfwng.

Fel pob polisiau yswiriant eraill mae yna gyfyngiadau. Cyfyngiadau ar y cyfanswm a fydd yn cael ei dalu allan i wahanol ranau o’r yswiriant. Er engraifft os cewch eich anafu wrth wneud gweithgareddau peryglys megis abseilio, ‘scuba diving’ ac yn y blaen, ni fyddwch yn cael eich digolledu.

Hefyd gall cwmnïau yswiriant eich troi i lawr os na ydych yn edrych ar ôl eich eiddo personol. Er enghraifft, os oes rhywun yn dwyn eich eiddo oddi ar y traeth tra ydych yn nofio yn mor, bydd y cwmnïau yswiriant efallai yn penderfynu eich bod heb gymryd gofal cyfrifol o’ch eiddo ac felly ddim yn eich digolledu.

Mae cwmnïau yswiriant yn poeni’n fwyfwy am dwyll, yn enwedig gydag yswiriant trafaelio. Os ydych yn hawlio arian am eitemau sydd wedi cael ei dwyn, yna fe fyddant angen tystiolaeth i ddangos eich bod wedi meddiannu’r eitemau. Cadwch luniau o’r eitemau yr ydych yn mynd gyda chi dramor. Mae rhai cwmnïau yswiriant yn mynnu cael derbynneb o’r eitemau a gollwyd.

Edrychwch i weld os ydi eich yswiriant cartref eisoes yn eich digolledu os bydd eich eiddo personol yn cael eu dwyn tra yr ydych allan o’r Deyrnas Unedig. Os yndi, efallai na chewch yswiriant trafaelio rhatach, ond mae’n werth gwybod oherwydd, efallai bod yswiriant eich cartref yn eich digolledu’n llwyr, tra ydych yn gorfod talu hyn a hyn yn gyntaf gydag yswiriant tramor. Os ydi yswiriant eich cartref ac yswiriant tramor yn eich digolledu am eitemau coll, yna ni chaniateir i chi hawlio arian gan y ddau gwmni. Byddant fel arfer yn haneru’r costau.

Peidiwch ag anghofio’r fantais o brynu pethau gyda'ch cardiau credyd tra ydych dramor. Mae rhai yn cynnwys yswiriant awtomatig am gyfnod byr ar nwyddau a brynwyd gyda’ch cerdyn. Cysylltwch â’ch gwasanaethwyr cardiau credyd am fwy o fanylion.

Yn olaf, os ydych chi neu eich teulu yn trafaelio yn aml, gofynnwch i’ch cwmni yswiriant am bolisi blynyddol. Rydych yn talu un taliad am y flwyddyn yn unig, ond efallai cewch eich cyfyngu i faint o dripiau y cewch wneud mewn blwyddyn.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru