Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Cerdded

Amddiffyn Eich Hunan
Tydi amddiffyn eich hunan ddim yn golygu cwffio’n ôl.

Cyngor Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh.
Cyngor ar ddiogelwch personol i blant ac oedolion


Safety Text
Dyma ffordd newydd o aros yn ddiogel drwy ddefnyddio eich ffôn symudol.

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Cerdded

cerdded

Edrych yn hyderus yw’r ffordd gorau i aros yn ddiogel tra ydych yn cerdded o gwmpas ar droed. Mae’n ffaith fod pobl hyderus yn llai tebygol o gael rhywun yn ymosod arnynt, felly os ydych yn cerdded ar ben eich hun, ceisiwch edrych y hyderus ac yn wyliadwrus.

Wrth gwrs, y gyfrinach i edrych yn hyderus yw teimlo’n ddiogel yn y lle cyntaf. Felly, byddwch yn wyliadwrus o’ch amgylchedd (surroundings), cynlluniwch o flaen llaw ble yr ydych yn mynd a sut yr ydych yn cyrraedd. Mae’n werth gadael i rywun wybod eich cynlluniau a ba bryd y byddwch yn dychwelyd - os yw eich cynlluniau yn newid yna gadwch iddynt wybod.

Er fod hyder yn factor bwysig, peidiwch a meddwl ‘gwnaith pethau ddim digwydd I fi’. Mae ymosodiad ar bobl yn brin iawn, ond mae’n werth bod yn barod rhag ofn, bydd dod yn barod yn gwneud I chi deimlo yn fwy hyderys beth bynag.

Os ydych yn cynllunio siwrnai ar droed, hyd yn oed siwrne fer, cynlluniwch eich llwybr o flaen llaw rhag ofn eich bod yn edrych ar goll. Cariwch ffôn symudol gyda chi, gyda rhifau defnyddiol wedi cael ei rhaglennu i mewn i’r ‘speed dial’.

Cariwch larwm personol gyda chi. Eto bydd cario un o’r rhain gyda chi yn gwneud i chi deimlo ychydig bach yn fwy hyderus. Arhoswch mewn ardaloedd prysur gyda digon o olau i oleuo’r ffordd. Ceisiwch osgoi mannau anghysbell a llwybrau byr (shortcuts) oni bai eich bod yn hyderus eu bod yn ddiogel. Os gallwch, ceisiwch osgoi cerdded ar ben eich hun, yn enwedig mewn ardal ddieithr.

Gwisgwch ddillad ac esgidiau cyfforddus er mwyn eich galluogi i symud yn hawdd. Cariwch eich bag ar draws eich corff. Cerddwch gan wynebu’r traffig sydd yn dod i’ch cyfarfod. Os oes rhaid i chi gerdded gyda’r traffig, a bod car yn digwydd stopio, trwch rownd a cherdded y ffordd arall fel bod y car methu eich dilyn.

Os ydych yn meddwl fod rhywun yn eich dilyn ar droed, yna croeswch y ffordd a daliwch i gerdded. Os ydych yn dal i feddwl bod rhywun yn eich dilyn yna cerddwch i fan prysur sydd wedi cael ei oleuo’n dda. Peidiwch a bod ofn gofyn am help.

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru