Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Waliau a Therfynau Gerddi

 

 

Chi a'ch Teulu

 

Eich Cartref

 

Eich Cerbyd

 

Mynd i Ffwrdd

 

Waliau a Therfynau Gerddi

Ffens

Gall amgylchynu terfyn eich cartref gyda ffens wyth troedfedd gyda gwifren bigog arno wneud i chi deimlo’n ychydig bach mwy diogel yn eich cartref. Er hynny gall wneud fwy o niwed nai werth.

Mewn gwirionedd nid yw gwifren bigog sydd yn rhedeg ar dop eich ffens yn mynd i gadw lleidr penderfynol draw, ond gall roi niwed difrifol i blentyn sydd yn ceisio nôl ei bêl.

Gall ffasiwn fesurau ddiweddu mewn achos llys o dan y ddeddf ‘Occupiers Liability Act’. Gall amddiffynfa o amgylch eich cartref godi awyrgylch o ofn, gan wneud yr ardal edrych yn hull ag amhleserus.

Yn lle amddiffynfa o’r fath o amgylch eich cartref, defnyddiwch ddull sydd yn ychydig bach yn fwy syml. Mae ymchwil yn dangos fod llinell wyn syml o amgylch eich cartref yn ddigon I gadw tresbaswyr i ffwrdd (efallai na fydd y cymdogion yn rhy hapus). Ond yn lle defnyddio paent, gosdwch ffens fach neu hyd yn oed newid gwead (texture) a lliw y tir drwy ddefnyddio gwahanol fathau o blanhigion neu bafin.

Mae defnyddio planhigion yn ffordd dda o amddiffyn eich eiddo, yn enwedig planhigion pigog megis Pyracantha, Rosa rugosa, coed Beris neu unrhyw fath o wrych, gallant edrych yn ddeniadol hefyd. Gyda ffens neu waliau gallwch blannu planhigion sydd yn dringo. Os oes rhywun yn dringo drosodd bydd y ‘trellis’ sydd yn dal y planhigion yn torri gan wneud sŵn, a bydd y planhigion yn gwneud pethau’n anodd iddynt - ni fyddwch yn gorfod poeni am gael eich erlyn. Gallwch gael eich erlyn gyda gwifren bigog.

Mae waliau uchel, sydd fel arfer yn cael eu gweld yn amgylchynu tai teras yn rhwystr effeithiol yn erbyn tresbaswyr neu ladron, ond gallant hefyd ddenu fandaliaid. Defnyddiwch baent gwrth-fandaliaeth ar eich wal os yw graffiti yn broblem, hefyd gwnewch yn siŵr fod eich giatiau gyda chloeau safonol arnynt.

Mae y rhan fwyaf o bobl yn hoffi cael waliau uchel y tu ôl i’r tŷ ar gyfer preifatrwydd, ond waliau neu wrychoedd isel yw’r gorau o flaen y tŷ, oherwydd mae’n galluogi'r cymdogion i weld os oes rhywbeth amheus yn mynd ymlaen. Mae marcio eich terfynau o amgylch eich tŷ yn ffordd effeithiol o gadw ymwelwyr diangen draw, mae’n gweithio orau os na ydi eich tŷ yn edrych fel amddiffynfa (fortress).

Top

 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru