![]() |
|---|
Taclo'r Taclau
![]() |
|---|
Ffeithiau am dan TACLO'R TACLAU / CRIMESTOPPERS - 0800 555 111
-
Elusen yw Taclo’r Taclau ac yn cael ei ariannu gan gyfraniadau.
-
Mae Taclo’r Taclau yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r gwasanaethau brys, llywodraeth, cyfryngau a busnesau ond maent yn gweithio’n annibynnol.
-
Nid adran gan yr heddlu yw Taclo’r Taclau er bod rhai ceir gan yr heddlu yn cario’r logo.
-
Mae Taclo’r Taclau yn darparu llinell ffôn rhad ac am ddim i chi gael rhoi gwybodaeth gyfrinachol am droseddau - 0800 555 111
-
Ni fydd Taclo’r Taclau yn cofnodi eich rhif ffôn ac ni fydd eich galwad yn cael ei recordio.
-
Ni fydd Taclo’r Taclau yn gofyn am ei enw na’ch cyfeiriad.
-
Ni fydd yr heddlu yn galw heibio nac yn cysylltu gyda chi os gwnewch ffonio Taclo’r Taclau.
-
Os byddwch yn cysylltu gyda Taclo’r Taclau ni fyddwch yn gorfod rhoi datganiad na mynychu’r llys i roi tystiolaeth.
-
Bydd y wybodaeth y byddwch yn rhoi i Taclo’r Taclau yn cael ei basio ym mlaen i’r heddlu lleol.
-
Ni ddylid defnyddio Taclo’r Taclau fel dewis arall i 999 – ni allant eich helpu mewn argyfwng.
-
Mae Taclo’r Taclau yn helpu pobl sydd gyda gwybodaeth newydd am droseddau ond ofn galw’r heddlu ond eto eisiau rhywbeth wedi cael ei wneud.
-
Mae gan Taclo’r Taclau ddiddordeb mewn pob math o droseddau gan gynnwys troseddau yn ymwneud a bywyd gwyllt, traffic, rheilffyrdd, dwyn , twyll a hyd yn oed cam-drin yn y cartref.
![]() |
Mae’r cynllun ‘Daliwch y Deliwr’ (Rat on a Rat) yn cael ei hyrwyddo yn Blaenau Ffestiniog ar hyn o bryd - Mae posteri yn cael eu gosod mewn tafarndai, siopau ac yn y blaen i annog y cyhoedd i ffonio Taclo’r Taclau os ganddynt unrhyw wybodaeth am rywun sydd yn delio mewn Cyffuriau. Bydd y wybodaeth yn cael ei basio yn ei flaen i’r heddlu. - Cofiwch “Dywedwch be ‘da chi’n gwybod nid pwy ydach chi”. |




