Cam-drin Yn Y Cartref
Nid yw cam-drin yn y cartref yn effeithio merched yn unig, gall effeithio dynion hefyd, mae’r trais fel arfer yn mynd yn waeth gydag amser. Ar wahân i gam-drin corfforol gall galw enwau cas, bwlio a rheoli bywydau rhywun gael effeithiau niweidiol ar y dioddefwr hefyd. Mae nifer o bobl yn dal mewn perthynas dreisiol oherwydd nad ydynt yn cydnabod eu bod yn ddioddefwyr trais. Nid yw’n hawdd dod i dermau gyda’r ffaith fod eich partner yn dreisgar tuag atoch ag yn aml iawn bydd y partner sydd yn dioddef yn cyfiawnhau'r hyn sydd yn digwydd iddynt.
Mae’n hawdd dweud fod rhaid i chi ffeindio help ond dyna yn hollol sydd raid gwneud. Efallai nad i’w yn hawdd siarad â rhywun am yr hyn sydd yn digwydd i chi ond mae’n rhaid gwneud er mwyn cymryd y cam cyntaf i ddatrys y sefyllfa. Siaradwch gyda ffrind neu ffonio un o’r grwpiau sydd yn gallu helpu (mae rhai wedi eu rhestru ar y dudalen hon) i siarad â rhywun sydd yn gallu cynnig cymorth emosiynol a help ymarferol.
Mae llochesau lle gallwch fynd iddynt er mwyn dianc i ffwrdd o’r treisiwr neu ystyriwch symud i mewn gyda ffrind neu aelod o’ch teulu.
Mae'r llochesau yn dai diogel ble gall pobl sydd yn dioddef o gam-drin yn y cartref fynd a byw mewn awyrgylch rhydd o drais. Os oes ganddo’ch blant gallwch fynd a nhw gyda chi. Mae lleoliadau a chyfeiriad y llochesau yn gyfrinachol. Mae dros 400 o lochesau ar hyd Cymru, Lloegr , Yr Alban a Gogledd Iwerddon - gallwch ddewis aros yn agos at eich cartref neu symud mor bell ac y gallwch. Mae rhai llochesau gyda lle i nifer o ferched a phlant a llochesi eraill ond ar gyfer un teulu yn unig. Mae rhai llochesau ar gyfer pobl sydd angen cymorth gydag anabledd neu hyd yn oed ar gyfer pobl sydd a gwahanol grŵp ethnig neu ddiwylliant.
Nid oes rhaid i chi ymglymu gyda’r heddlu os nad ydych eisiau ond cofiwch y gallwch eu ffonio os yr ydych angen. Os bydd yr heddlu yn penderfynu defnyddio'r ddeddf droseddu neu beidio yn erbyn y person treisgar, gallwch chi ddefnyddio'r ddeddf wladol er mwyn cael amddiffyniad i fyw mewn diogelwch. Os am fwy o wybodaeth cysylltwch â chyfreithiwr, eich Canolfan Cynghori lleol neu grwp ‘Women's Aid’.
Top y Dudalen
|
Ystadegau
- Ar gyfer taledd, mae dwy ddynes yn cael eu lladd gan eu partneriaid neu eu cyn partneriaid pob wythnos.
(Home Office Criminal Statistics for England and Wales 1999).
- Bydd un o bob pedair merch yn disgyn yn ddioddefwyr trais yn y cartref rhywbryd yn eu bywydau.
(Domestic Violence: A Health Care Issue, London, BMA 1998)
- Mae llawer o ymchwiliadau yn dangos fod plant yn y run ystafell neu o fewn clyw pan fo cam-drin yn y cartref yn digwydd.
(Domestic Violence: A Health Care Issue, London, BMA 1998)
- Ar gyfer taled bydd dioddefwr trais yn y cartref yn cael eu hymosod arnynt oddeutu 35 o weithiau cyn iddynt adael yr awdurdodau wybod.
(Bewley, Friend and Mezey 1997)
- Mae merched yn fwy tebygol o gyflawni dynladdiad tra ar ganol neu ar ôl gwahanu gyda’r partner treisgar.
(Lees 2000)
- Mae trais yn y cartref yn aml yn dechrau neu yn dwysau yn ystod beichiogrwydd.
(Domestic Violence in Pregnancy, Mezey 1997)
Top y Dudalen
|
Mathau o Drais Yn Y Cartref
Efallai bod rhai achosion o drais yn y cartref yn achosion o niwed corfforol, ond mae mathau eraill o gam-drin yn y cartref sydd ddim mor weladwy â chleisiau ac esgyrn wedi torri. Yr ochr sydd yn aml yn cael ei chuddio yw bwlio, bygythiadau, cyhuddiadau neu weld beiau. Gall cam-drin yn y cartref fod yn gorfforol, ond gall hefyd fod yn gamdriniaeth rywiol, seicolegol/emosiynol neu economaidd. Mae ymchwiliad yn dangos fod merched sydd yn dioddef trais yn y cartref yn debygol o adlewyrchu cyfuniad o’r ffurfiau canlynol:
Mae camdriniaeth corfforol cynnwys taro, slapio, cicio, tagu, tynnu gwallt, crafu, torri’r croen, llosgi, trywanu, atal meddyginiaeth, boddi neu stranglo, ymgais i lofruddio neu hyd yn oed llofruddio.
Mae camdriniaeth rhywiol yn cynnwys trais, defnyddio gwrthrychau yn ystod cyfathrach yn erbyn ei hewyllys, ei gorfodi i wylio ffilmiau pornograffig, ei gorfodi i gael rhyw o flaen pobl eraill neu ei gorfodi i wneud unrhyw act rhywiol yn erbyn ei hewyllys.
Mae camdriniaeth seicolegol/emosiynol yn cynnwys codi cywilydd ar rywun o flaen eraill, dweud fod rhywun yn dda i ddim, hull neu’n dwp; dweud fod nhw yn fam/gwraig tŷ anobeithiol, gwneud bygythiadau yn ei herbyn neu yn erbyn y plant; cadw hi rhag gweld ei ffrindiau a theulu; ei hatal rhag cysgu; cyfiawnhau'r gamdriniaeth gan wneud iddi hi deimlo mai ei bai hi yw popeth.
Mae camdriniaeth economaidd/ariannol yn rheolaeth bwerus iawn. Gall gynnwys gwrthod rhoi arian, bwyd, dillad, rhent neu hyd yn oed ddwyn arian gan iddi.
Top y Dudalen
|
Pam Fod Merched Yn Aros Mewn Perthynas Treisgar?
Mae llawer o bobl yn cwestiynu pam fod merched yn aros mewn perthynas dreisgar. Gall dianc o berthynas dreisgar edrych yn anodd neu hyd yn oed yn amhosib. Nid yw’n ddewis hawdd i droi cefn neu stopio caru rhywun yr ydych wedi ymrwymo eich bywyd iddo, neu rywun sydd yn dad i’ch plant.
Mae chwilio am gymorth neu siarad am drais yn y cartref yn anodd tu hwnt. Yn ein diwylliant ni, mae merched yn dal yn cael eu gweld fel cydbwysedd cyfrifol o fywyd teuluol. Pan fo pethau yn mynd o chwith, bydd merched yn ofni fod pobl yn meddwl mai eu bai nhw yw popeth, neu hyd yn oed beio nhw eu hunain am i bethau fynd o chwith.
Top y Dudalen
|