Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydnabod pryder y cyhoedd. Mae’r sefydliad wedi ymrwymo i weithredu’r gyfraith a lleddfu ofn er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl.
Mae’r is-ddiwylliant o ymddygiad troseddol ac aflonyddol sy’n bodoli mewn rhai cymuendau penodol yng Ngogledd Cymru yn destun pryder parhaus ymysg y cyhoedd. Mae camymddwyn amlwg a thybiedig mewn mannau cyhoeddus yn codi ofn ar lawer o bobl. Mae eraill yn teimlo’n rhwystredig oherwydd y diffyg parch tuag at y gyfraith, diogelwch yr unigolyn a’r amgylchedd. Gallai’r sylw diweddar a gafodd ymddygiad di-foes rhai o’n pobl ifanc yn ein trefi fod wedi dwysáu’r poen meddwl hwnnw.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydnabod pryder y cyhoedd. Mae’r sefydliad wedi ymrwymo i weithredu’r gyfraith a lleddfu ofn er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl. Bydd yn cryfhau’r ymrwymiad hwnnw drwy ddull gweithredu penodol fydd yn cael ei roi ar waith ar hyd a lled ardal yr heddlu ac a fydd yn dwyn yr enw ‘Dyna Ddigon’
‘Mae gan ‘Dyna Ddigon’ nifer o amcanion sy’n ategu’r weledigaeth o greu Gogledd Cymru diogelach:-
- I ysgogi drwgleictod o’r ‘diwylliant iobaidd’ ymysg y cyhoedd
- I feithrin atgasedd tuag at fân-droseddau ac ymddygiad anghymdeithasol
- I wneud mannau cyhoeddus yn groesawus ac yn ddiogel bob adeg o’r dydd
- I gynorthwyo a chefnogi cyrff cyhoeddus eraill i hyrwyddo balchder yn y gymdeithas
- I ddargyfeirio pobl ifanc oddi wrth wrthdaro a thynnu’n groes
Byddwn yn rhoi cyfarwyddyd ac yn annog swyddogion i ddelio â phroblemau trosedd ac anhrefn pan, a phryd bynnag, y bo modd gwneud hynny. Bydd adnoddau corfforaethol ar gael i roi cefnogaeth lawn iddynt. Byddant yn defnyddio deheurwydd, creadigolrwydd a phenderfyniad i ddatgelu ac i atal gweithgareddau troseddol.
Mae’n amlwg na all yr Heddlu ddyfeisio atebion tymor hir ar eu pennau eu hunain. Un o elfennau allweddol ‘Dyna Ddigon’ fydd cyswllt a gweithredu aml-asiantaethol. Byddwn yn annog cyrff sy’n gallu cyfrannu tuag at y gwaith o ganfod atebion effeithiol a pharhaol i gymryd rhan. Byddwn hefyd yn ceisio cefnogaeth a chydnabyddiaeth y cyfryngau.