![]() |
|---|
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Diffiniad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o dan Act Trosedd ag Anrhefn 1998 yw ymddygiad sydd yn debygol o godi cynnwrf, aflonyddwch neu gyfyngder gan aelod o’r cyhoedd sydd ddim yn yr un adeilad ar cyflawnwr.
Cam-drin Yn Y Cartref
Nid yw cam-drin yn y cartref yn effeithio merched yn unig gall effeithio ar ddynion hefyd, mae’r trais fel arfer yn mynd yn waeth gydag amser. Ar wahân i gam-drin corfforol gall galw enwau cas, bwlio a rheoli bywydau rhywun gael effeithiau niweidiol ar y dioddefwr hefyd. Mae nifer o bobl yn dal mewn perthynas dreisiol oherwydd nad ydynt yn cydnabod eu bod yn ddioddefwyr trais. Nid yw’n hawdd dod i dermau gyda’r ffaith fod eich partner yn dreisgar tuag atoch ag yn aml iawn bydd y partner sydd yn dioddef yn cyfiawnhau'r hyn sydd yn digwydd iddynt.
![]() |
|---|