Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Gwarchod y Gymdogaeth

FORUM PROCEEDINGS
FORUM PROCEEDINGS 2006

Gwarchod Cymdogaeth Treffynon ar ArdalHolywell & District Neighbourhood Watch
www.hdnw.ik.com

Neighbourhood Watch
Gwarchod y Gymdogaeth Gwefan ar gyfer Cymdeithas Gwladol Gwarchod y Gymdogaeth.

BBC Crime - Getting Involved
Cyngor ar sut i helpu atal troseddau yn eich cymuned leol.

Crime Concern Trust
Darparu gwybodaeth ar sut i greu cymuned ddiogel.

 

Community Safety

Gwarchod y Gymdogaeth

Beth yw’r ffordd fwyaf effeithiol i gadw eich cartref yn ddiogel? Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo’n gysurol os oes cymydog gwyliadwrus yn cadw golwg ar eich cartref tra rydych i ffwrdd ac mae’n ddull effeithiol iawn o gadw’ch cartref yn ddiogel.

Mae'r mwyafrif o bobl yn credu fod cael cymydog gwyliadwrus, yn fwy effeithiol na chael larwm yn y tŷ.

Nid yw’n syndod felly fod Gwarchod y Gymdogaeth (neighbourhood watch) yn gynllun poblogaidd iawn hefo pobl Prydain gyda dros gwarter o dai ym Mhrydain yn ymuno ar cynllun. Mae ymchwil yn dangos fod tri chwarter y bobl sydd wedi ymuno a’r cynllun yn dweud ei fod yn effeithiol yn erbyn troseddau megis torri mewn i dai neu ddwyn.

Daeth cynllun Gwarchod y gymdogaeth i Brydain yn 1982 ac wedi tyfu yn gyflym ers hyn. Mae dros 150,000 o gynlluniau yn gwasanaethu chwe miliwn o dai sydd yn gwneud Gwarchod y Gymdogaeth y mudiad elusennol fwyaf ym Mhrydain i gyd.

Yn ogystal â chadw troseddwyr draw gall Gwarchod y Gymdogaeth helpu i ddod a phobl at ei gilydd. Hefyd mae’n creu cyswllt agos rhwng y cymunedau a’r heddlu lleol, sydd yn frwdfrydig iawn i gefnogi Gwarchod y Gymdogaeth.

Mae cwmnïau yswiriant wedi sylwi ar fuddiannau pobl yn ymuno gyda Gwarchod y Gymdogaeth. Mae rhai o’r cwmnïau yn cynnig gostyngiad yn eu premiwm yswiriant i aelodau Gwarchod y Gymdogaeth.

Yn ogystal â chyfrannu at ddiogelwch cartrefi, mae llawer o gynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth wedi ymestyn eu gweithgareddau i gynnwys:

  • Gwella’r amgylchedd lleol drwy gael gwared â graffiti a thacluso tir diffaith.
  • Helpu’r sâl ar henoed yn ogystal ag agor canolfannau gweithgareddau i’r ieuenctid.
  • Codi arian at elusennau lleol, projectau a datblygiadau.
  • Raising funds for local charities, projects and developments.
  • Sefydlu cynlluniau ‘Cerdded y Gymdogaeth’ a darparu ‘gwasanaeth cerdded adref’ i’r ifanc, hen ar bregus.
  • Agor siopau ar gyfer rhoi cyngor ar atal troseddau a darparu gwirfoddolwyr i weithio mewn gorsafoedd heddlu gwledig.

Am fwy o fanylion am gynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth yn eich ardal leol neu am fanylion ar sut i ddechrau cynllun newydd yn eich cymuned, cysylltwch gyda’ch gorsaf heddlu lleol neu gysylltu gyda Cymdeithas Gwladol Gwarchod y Gymdogaeth.

 

 

 


 

Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru