Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru

 

Diogelwch Tân Gwyllt

Digwyddiadau Coelcerth a Thân Gwyllt yn eich hardal chi:

Dyna Ddigon
Taclo Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gwarchod y Gymdogaeth
Beth yw’r ffordd fwyaf effeithiol i gadw eich cartref yn ddiogel? Mae’ rhan fwyaf o bobl yn teimlo’n gysurol os oes cymydog gwyliadwrus yn cadw golwg ar eich cartref tra rydych i ffwrdd ac mae’n ddull effeithiol iawn o gadw’ch cartref yn ddiogel.

tan gwyllt

Er y rhybuddion diogelwch blynyddol, mae noson tân gwyllt yn troi allan i fod yn drychineb i ormod o deuluoedd. Er hynny gall noson tân gwyllt ddiddanu miloedd o bobl ar hyd y wlad gan oleuo’r awyr. Cyn belled fod pawb yn cofio y gall tân gwyllt fod yn beryglus a bod pawb yn cadw at reolau diogelwch syml, gallwch gael noson gwerth chweil wrth wylio tân gwyllt.

Byddwch yn ofalus,

Mae tân gwyllt yn ddiogel os ydynt yn cael eu defnyddio gyda gofal. Os ydych yn gyfrifol am gynnal arddangosfa tân gwyllt gartref, yna dylech ddilyn camau diogelwch syml er mwyn cael noson dda heb neb yn cael eu hanafu.

Cadwch blant yn ddiogel

Rydym eisiau ein plant fwynhau tân gwyllt, ond dylent fod ar ddallt y gall tân gwyllt fod yn beryglus os nad ydynt yn cael eu defnyddio yn gyfrifol. Pob blwyddyn, mae dros hanner o anafiadau o ganlyniad i dân gwyllt yn cael eu dioddef gan blant.

Diogelwch Tân Gwyllt

‘Sparklers’
Mae'r rhain yn cael eu gweld yn aml yn ddiniwed ond maent yn llosgi ar dymheredd a
Aruthrol o boeth. Ni ddylai ‘Sparklers’ gael eu rhoi i blant o dan bump. I blentyn ifanc, mae'r gwres o ‘Sparklers’ yn gyfartaledd i wres torsh weldio.

Rheolau diogelwch ar gyfer Sparklers’

  • Ni ddylai ‘Sparklers’ gael eu rhoi i blant o dan bump.
  • Gwisgwch faneg wrth afael ynddynt, rhai lledr os yn bosib.
  • Gafaelwch ynddynt gyda hyd braich.
    Peidiwch â’u chwifio yn agos at berson arall rhag ofn eu llosgi.
  • Peidiwch byth a chario babi yn eich breichiau wrth afael mewn ‘Sparklers’
  • Pan mae’r ‘Sparkler’ wedi darfod, rhowch i mewn bwced o ddŵr oer gan ei adael yno.

Anifeiliaid Anwes

Nid yw anifeiliaid anwes yn hoffi coelcerthi na thân gwyllt. Mae’r fflamau ar sŵn yn eu cynhyrfu. Dylai anifeiliaid anwes fod yn ddiogel o dan do. Gwnewch yn siŵr nad oes modd iddynt ddianc. Mae’n syniad cau'r llenni hefyd, a hwyrach ei fod yn syniad i gadw anifeiliaid anwes o dan do am ambell i noson o gwmpas y 5ed o Dachwedd

Diogelwch Tân Gwyllt

Dylai pobl ifanc fwynhau tân gwyllt o bellter diogel gan ddefnyddio'r rheolau diogelwch wrth ddefnyddio ‘sparklers’. Dim ond oedolion ddylai gynau a delio gyda thân gwyllt. Dylent hefyd wneud yn siŵr fod gwastraff tân gwyllt yn cael eu gwaredu ar ôl cael eu defnyddio.

  1. Cynlluniwch eich noson o flaen llaw.
  2. Cadwch y tân gwyllt mewn bocs caeedig gan ddefnyddio un ar y tro.
  3. Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt gan ddefnyddio fflach lamp os oes angen.
  4. Cynwch y tân gwyllt gyda hyd fraich a sefwch yn ôl ddigon pell.
  5. Cadwch fflamau tân, gan gynnwys sigarennau i ffwrdd o dân gwyllt.
  6. Peidiwch byth a dychwelyd i dân gwyllt unwaith y mae wedi cynnau.
  7. Peidiwch â rhoi tân gwyllt yn eich poced na eu taflu.
  8. Cyfeiriwch y tân gwyllt i ffwrdd o’r tofeydd.
  9. Peidiwch byth a defnyddio paraffin na phetrol ar goelcerth.
  10. Gwnewch yn siŵr fod y tân yn ddiogel ac wedi ei ddiffodd cyn gadael.

Hwyrgloch Tân Gwyllt

Mae newidiadau diweddar yn y gyfraith yn golygu nad yw’n gyfreithlon tanio tân gwyllt rhwng 11pm a 7am (arwahan i’r 5ed o Dachwedd, Noson ola’r flwyddyn, Noson ola’r flwyddyn y Chinese a Diwali pan mae’r hwyrgloch yn hwyrach). Yn obeithiol, bydd yr hwyrgloch yma yn arbed aflonyddu pobl neu anifeiliaid gan dân gwyllt.

 


Dyna Ddigon Amdanom Ni | Hawlfraint | ©2008 Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru