RHYBUDD DIOGELWCH

DARLLENWCH Y CANLYNOL

Os ydych yn poeni y gall rhywun ffeindio allan eich bod wedi ymweld ar safle we yma yna darllenwch ein rhybudd. Mae’n dweud sut i gymryd camau i wella eich diogelwch tra eich bod ar y we.
Hanes / Storfa dros dro (cache file):
Mae’n bosib i rywun weld pa wefannau yr ydych wedi eu hymweld ar eich cyfrifiadur drwy edrych yn ffeiliau hanes neu ‘cache file’ (cache file - llyniau a thudalennau gwefannau sydd yn cael eu safio yn awtomatig).
PWYSIG
Efallai ni fydd y wybodaeth isod yn clirio’r hanes yn gyfan gwbwl. Y ffordd mwyaf diogel i ffeindio gwybodaeth ar y we, yw mewn lle diogel megis y llyfrgell, gwaith neu dy ffrind.

Internet Explorer:
Cliciwch ar ddewislen ‘Tools’ (yn y top uwch ben y porwr / browser). Dewiswch ‘Internet Options’ o’r ddewislen sydd yn disgyn i lawr. Dylech wan fod ar dab ‘general’. O dan y teitl 'Temporary Internet Files' cliciwch ar 'Delete Files'. Gallwch hefyd ddileu'r tudalennau ‘offline’ drwy glicio ar ‘Clear History’ o dan y teitl ‘History’ sydd yn y gwaelod.

Netscape:
Cliciwch ar ddewislen ‘Edit’, dewisiwch 'Preferences' o’r ddewislen sydd yn disgyn i lawr. Cliciwch ar ‘Navigator’ wedyn cliciwch ar fotwm 'Clear History'. Wedyn cliciwch ar ‘Advance’ (gall hwn fod yn dab neu’n opsiwn, os nad yw yn y rhestr cliciwch ar +) yna cliciwch ar 'Clear Disk Cache'.

Ar fersiynau hen o Netscape, cliciwch ar ddewislen ‘Options’, dewisiwch ‘Cache’ yna cliciwch ar 'Clear Disk Cache'.

AOL:
Dilynwch y stepiau canlynol i glirio ‘cache file’ AOL.

  1. Cliciwch ar ‘Start’ – ‘Programs’ – ‘AOL’ – AOL System Information’
  2. Cliciwch ar dab 'Utilities' ar dop y ffenestr.
  3. Cliciwch ar fotwm 'Clear Browser Cache'. Dylsai 'Current Cache Size' newid i 0Kb
  4. Rŵan cliciwch ar X yn y gornel i gau'r ffenestr.

Cysylltwch gyda rhaglen AOL fel yr arfer i weld os yw hyn wedi datrys y broblem.

Os nad ydyw 'AOL System Information' wedi cael ei restru yn ddewislen ‘Programs’ yna trïwch y dull canlynol.

  1. Cysylltwch ym mlaen i AOL fel arfer.
  2. Cerwch i AOL allweddair: 'Preferences'.
  3. Cliciwch ar 'Internet Properties (WWW)' – Dylsai ffenestr 'Internet Options' agor.
  4. Cliciwch ar ‘Delete Files’…wedyn cliciwch ar OK i ddileu eich ffeiliau rhyngrwyd dros dro.

E-bost
Os oes gan dreisiwr fynediad i’ch cyfrif e-bost, yna gall ddarllen eich e-byst (mewn ag allan). Gwnewch yn siŵr fod gan eich cyfrif, gyfrinair ni all y treisiwr ei ddyfalu.
Os yw rhywun yn gyrru negeseuon e-bost bygythiol atoch yna gallwch eu hargraffu a’u cadw fel tystiolaeth.